Erlyn masnachwr stryd a oedd heb drwydded

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023

Mae dyn o Swindon wedi pledio’n euog i fasnachu yn Nhorfaen heb ganiatâd i fasnachu ar y stryd.

Fe fu swyddogion o Dîm Trwyddedu’r Cyngor yn cynnal gwiriadau ym mis Ebrill 2023, a chanfuwyd bod Franco Carchedi o Oxford Road, Swindon, yn gwerthu hufen iâ o’r maes parcio yn Fferm Greenmeadow, Cwmbrân, heb y caniatâd angenrheidiol i fasnachu ar y stryd. 

Fe fu Mr. Carchedi gerbron Llys Ynadon Cwmbrân ddydd Iau 23 Tachwedd 2023, ar gyhuddiad o fasnachu ar y stryd yn Nhorfaen heb iddo gael ei awdurdodi i wneud hynny trwy ganiatâd i fasnachu ar y stryd. 

Mae gofyn cael caniatâd i fasnachu ar y stryd er mwyn masnachu’n gyfreithlon ar unrhyw stryd, gan cynnwys meysydd parcio, yn Nhorfaen, ac eithrio ardaloedd a ddynodwyd yn strydoedd sydd wedi eu gwahardd.

Plediodd Mr Carchedi yn euog i’r drosedd a chafodd ddirwy o £512 a gorchymyn i dalu gordal dioddefwyr o £205 a £200 tuag at gostau’r Cyngor. 

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Rydyn ni am sicrhau bod yr holl fusnesau’n masnachu’n gyfreithlon yn Nhorfaen er mwyn diogelu ein trigolion a’n defnyddwyr, yn ogystal â’n masnachwyr cyfreithlon.

“Roedd swyddogion wedi dweud wrth Mr. Carchedi am yr angen i gael caniatâd i fasnachu yn y Fwrdeistref, ond nid oedd wedi cydymffurfio, a dyna pam y bu’n rhaid iddo ymddangos gerbron y Llys.

“Mae’n bwysig sicrhau bod gan fusnesau'r caniatâd cywir i fasnachu er mwyn rhoi cyfle teg i bob busnes a sicrhau bod y nwyddau sy’n cael eu gwerthu yn cydymffurfio ac nad ydynt yn berygl i iechyd y cyhoedd.”

Rhagor o wybodaeth am sut i ymgeisio am ganiatâd i fasnachu ar y stryd.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am fasnachu anghyfreithlon ar y stryd gysylltu â Thîm Trwyddedu Torfaen ar 01633 647286 neu anfon neges e-bost i licensing@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 28/11/2023 Nôl i’r Brig