Noson rwydweithio yn fusnes i bawb

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 23 Tachwedd 2023
WIB 2023 montage

Fe fu dros 100 o entrepreneuriaid ac arweinwyr busnes benywaidd yn nigwyddiad Menywod mewn Busnes Torfaen neithiwr.

Trefnwyd y noson yng Ngwesty’r Parkway, yng Nghwmbrân, gan Dîm Ymgysylltiad Busnes Cyngor Torfaen ac roedd yn cynnwys siaradwyr gwadd, cyfleoedd i rwydweithio a marchnad Nadolig fach. 

Yn ystod y digwyddiad, hefyd, cynhaliwyd raffl er budd elusen Cymorth i Fenywod Cyfannol, gyda gwobrau gwerth cannoedd o bunnau wedi eu rhoi gan gwmnïau lleol.

Dyma’r tro cyntaf i Julianna Beavan a Katie Summner, o gwmni The Mellow Patch Company, ym Mhont-y-pŵl, fod mewn digwyddiad rhwydweithio.

Meddai Julianna: "Lansiwyd ein busnes bedwar mis yn ôl ac roedden ni eisiau gweld sut brofiad oedd digwyddiad rhwydweithio. Rydyn ni wir wedi mwynhau – mae pawb wedi bod yn gynnes ac yn groesawgar iawn."

Meddai Kirsten Tuck, cyfreithiwr gydag Everett Tomlin Lloyd and Pratt, ym Mhont-y-pŵl: "Rydw i wedi bod yn nifer o’r digwyddiadau hyn ac maen nhw’n ddifyr dros ben bob tro. Rydw i’n falch iawn eu bod nhw wedi ailddechrau unwaith eto ac mae wedi bod yn braf gweld cymaint o wynebau newydd."

Ymhlith y siaradwyr roedd Kelli Aspland a Laura Waters o Solar Buddies, yng Nghwmbrân, a chyn Reolwr Gyfarwyddwr Eden Project, Gaynor Coley, o Gwmbrân.  

Agorwyd a chaewyd y noson gan y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros Yr Economi, Sgiliau ac Adfywio, a llwyddodd y noson i godi £1,600 i’r elusen. 

Meddai: "Roedd y digwyddiad yn gyfle i westeion rannu eu llwyddiant, eu dyheadau a’u harfer gorau, yn ogystal â’r heriau a’r rhwystredigaethau maen nhw’n eu hwynebu fel menywod busnes.

"Roedd hefyd yn gyfle i glywed gan Cymorth i Fenywod Cyfannol am y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud i gefnogi’r rheiny sydd â’r mwyaf o’i angen. 

"Roedd yr egni a’r naws positif yn yr ystafell wir yn ysbrydoliaeth a gallwn ni ddim aros tan ddigwyddiad y flwyddyn nesaf."

Mae pedair blynedd ers cynnal digwyddiad diwethaf Menywod mewn Busnes Torfaen oherwydd Covid. Eleni, ariannwyd y digwyddiad gydag arian o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

I ddarganfod sut all Cyngor Torfaen gefnogi eich busnes, ewch i Cyswllt Busnes Torfaen. Gallwch hefyd gysylltu â’r tîm ar businessdirect@torfaen.gov.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/11/2023 Nôl i’r Brig