Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 31 Mai 2023
Ydych chi erioed wedi breuddwydio am redeg eich caffi eich hun?
Os do, efallai gallech chi fod yn ddeiliad newydd prydles ar gaffi Canolfan Treftadaeth Blaenafon, ddim yn bell o’r atyniadau adnabyddus, Big Pit a Gweithfeydd Haearn Blaenafon.
Mae’r broses dendro wedi cychwyn, a bydd prydles am dair blynedd ar gael o Fedi ymlaen gyda’r posibilrwydd o ehangu hynny ddwy flynedd bellach.
Gyda rhyw 30,000 o ymwelwyr pob blwyddyn, mae lle yn y caffi i 34 o gwsmeriaid ac mae ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul rhwng 9.15am a 4.30pm gydol y flwyddyn (gan gynnwys gwyliau banc). Mae darnau gosod a gosodiadau cegin, yn ogystal â byrddau a chadeiriau, yn cael eu cynnwys yn y brydles hefyd.
Trwy ddod yn denant ar y caffi, byddwch nid yn unig yn cael cronfa o gwsmeriaid sydd wedi ei hen sefydlu, ond byddwch hefyd yn mwynhau partneriaeth gydweithredol â’r ganolfan treftadaeth. Bydd y bartneriaeth hon yn agor drysau at ddigwyddiadau cyffrous a chynlluniau ar y cyd, gan roi cyfleoedd unigryw i chi ddangos eich doniau a denu mwy fyth o ymwelwyr i’ch caffi.
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Mae hwn yn gyfle gwych, p’un ai ydych chi’n berchennog caffi profiadol neu’n rhywun sydd am wireddu breuddwyd o redeg eich tŷ bwyta eich hun.
“Mae’r caffi mewn lleoliad delfrydol, felly ewch amdani, gyda’ch brwdfrydedd, a gadewch i’ch arbenigedd gyda bwyd lewyrchu yn y lle bywiog a chroesawgar yma.”
I wybod mwy am y cyfle anhygoel yma ac i ddechrau ar eich cais, ewch i wefan Gwerthwch i Gymru . Mae eich breuddwyd o fod yn berchen ar gaffi llwyddiannus yn dechrau yma!