Lansio hyb ar-lein newydd hawdd ei ddefnyddio ar gyfer busnesau bwyd

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 24 Mai 2023

Gall busnesau bwyd bellach ddod o hyd i ganllawiau a chyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) mewn un hyb sy’n hawdd mynd ato ar food.gov.uk sy’n cynnwys canllawiau i fusnesau.

Mae’r hyb newydd yn cynnwys yr holl ganllawiau ar sut i ddechrau busnes bwyd, sut i gael sgôr hylendid bwyd dda a sut i reoli alergenau i gadw cwsmeriaid yn ddiogel.

Gall busnesau hefyd ddarllen astudiaethau achos newydd ar flog yr ASB, sy’n cynnwys straeon go iawn am sut mae gweithio gyda’ch awdurdod lleol a’r ASB yn gallu eich helpu i ddechrau a datblygu eich busnes yn ddiogel ac yn llwyddiannus. 

Dywedodd Hanna, Sylfaenydd a Pherchennog Benji’s Bites yn Harrogate:

“Mae gan hyb Yma i Helpu yr ASB yr holl ddogfennaeth sydd ei hangen arnoch, ac mae’n rhoi rhestr wirio dda i chi weithio drwyddi i wneud yn siŵr nad ydych wedi anghofio unrhyw beth. Rwy’n gwybod bod fy Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ar gael bob amser hefyd. Os bydd gen i unrhyw gwestiynau, mae modd ei holi hi.”

Dywedodd Katie Pettifer, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chydymffurfiaeth Rheoleiddio yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd:

“Ar adeg pan fo busnesau bwyd newydd yn wynebu pwysau costau a heriau eraill, mae’r ASB ac awdurdodau lleol am ei gwneud yn haws i fusnesau wneud y peth iawn. Mae ein hyb ar-lein newydd wedi casglu’r cyngor a’r canllawiau sydd eu hangen ar unrhyw fusnes bwyd newydd i gael hwyl ar redeg busnes diogel sy’n cydymffurfio.”

Bydd yr ASB hefyd yn cyhoeddi astudiaethau achos gan Ymarferwyr Iechyd yr Amgylchedd ledled Cymru a Lloegr, gan rannu mwy am eu gwaith a’r hyn y maent yn chwilio amdano wrth gynnal arolygiadau mewn busnesau.

I gael mwy o wybodaeth am sut i gadw’ch busnes ar y trywydd iawn a diogelu defnyddwyr ar yr un pryd, ewch i’n hyb canllawiau i fusnesau. Fel arall, ewch i’n canllaw hwylus ar gyfer y sawl sy’n dechrau busnes bwyd newydd.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/06/2023 Nôl i’r Brig