Gwneud y diwydiant tatŵio a harddwch yn fwy diogel

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 24 Mawrth 2023

Bydd gofyn i artistiaid tatŵio a’r rheiny sy’n gweithio mewn busnesau tyllu’r corff, lliwio’r croen y lled-barhaol, aciwbigo ac electrolysis gofrestru ar gyfer cynllun trwyddedu gorfodol cenedlaethol newydd y flwyddyn nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ei chynigion ar gyfer y ddeddfwriaeth, a’r wythnos nesaf fe fydd Cyngor Torfaen yn cynnal gweithdy ar-lein rhad ac am ddim i esbonio’r broses ymgynghori ac i ateb cwestiynau am y ddeddfwriaeth newydd.  

Cyngor Torfaen yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ddod yn ganolfan hyfforddi a gymeradwyir ar gyfer cymhwyster Lefel 2 yr RSPH mewn Atal a Rheoli Heintiau. Bydd angen y cymhwyster hwn ar bob ymarferydd cyn iddynt allu ceisio am drwydded.  

Mae Robbie Taylor, sy’n 42 oed, yn berchen ar fusnes Evermore Tattoo Collective yn Nhrefddyn, ac fe fu’n cymryd rhan mewn cynllun peilot gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cymhwyster.

Meddai: “Mae hyfforddiant am reoli haint yn hynod o bwysig oherwydd y wybodaeth a’r ddealltwriaeth rydych chi’n eu  cael, na fyddech chi’n eu cael ar unrhyw gwrs hyfforddi arall.

“Rydw  i wedi bod yn tatŵio ers amser hir iawn ac mae yna ddywediad na fyddwch chi fyth yn dysgu popeth ym maes tatŵio. Mae’r cwrs hwn yn tynnu sylw at y datganiad yna. Rydw i wedi dysgu am gyflyrau’r croen a fyddai’n effeithio ar y broses datŵio ac wedi dysgu am yr arferion diheintio cywir ac anghywir, ac roedd hyn yn agoriad llygad.

“Os allwn ni sicrhau bod pawb yn y diwydiant yn dilyn yr un gweithdrefnau, byddwn yn sicrhau bod cyn lleied o heintiau â phosibl yn codi a bod safonau’n uchel. Gall ein cwsmeriaid deimlo’n ddiogel, gan wybod ein bod ni i gyd yn cael ein hyfforddi i’r un safonau.”

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae ar y cyhoedd angen gwybod eu bod nhw’n ddiogel wrth dalu am wasanaeth, a ffordd wych o roi’r sicrwydd hwn iddynt yw sicrhau bod pob ymarferydd yn cael ei hyfforddi i’r un safon o ran rheoli heintiau.

“Mae ein gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd yn gweithio gydag ymarferwyr er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sydd ar y gweill ar hyn o bryd, a sut y gallan nhw fod yn rhan ohono, gan fod yna newidiadau fydd yn effeithio ar eu harferion busnes.

“Weithiau mae ymgynghoriadau yn gallu gorlethu busnesau, yn enwedig os nad ydyn nhw wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriad o’r blaen. Dyna pam y mae’r tîm yn cynnal gweithdy ar-lein i’w helpu trwy’r broses ymgynghori. Gall busnesau holi unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am y broses a chael atebion gan arbenigwyr. Er enghraifft, fe fydd Dr Sarah Jones, Uwch-gynghorydd Iechyd yr Amgylchedd, sydd wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y ddeddfwriaeth newydd a’r ymgynghoriad, yn esbonio’r cynigion  ar y noson.”

Cynhelir y sesiwn ar-lein nos Fercher 29 Mawrth o 5pm tan 7.30pm. Os nad ydych wedi cael galwad ffôn yn barod, gallwch gofrestru ar gyfer y sesiwn trwy e-bostio eich enw, eich cyfeiriad e-bost a manylion eich busnes at commercial.services@torfaen.gov.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 24/03/2023 Nôl i’r Brig