Lansio gwasanaeth busnes newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 7 Mawrth 2023
TBD-Launch-Eng.mp4

Cathy King and Councillor Jo Gauden

Dathlodd arweinwyr busnes lleol a mentrwyr lansio gwasanaeth cymorth busnes newydd yn gynharach heddiw. 

Daeth cynrychiolwyr o Gyngor Torfaen, Busnes Cymru, Bank Datblygu Cymru a Choleg Gwent hefyd i’r digwyddiad i lansio Cyswllt Busnes Torfaen – siop un stop newydd Cyngor Torfaen ar gyfer ymholiadau busnes.

Bydd yn cael ei rheoli gan Dîm Ymgysylltiad Busnes Torfaen o fewn y cyngor, a fydd yn gweithio’n agos â busnesau lleol i ddatblygu’r model.

Yn eu plith roedd Cathy King, perchennog The Cwtch Animal Homestay, yn Henllys, sy’n un o fentoriaid Busnes Cymru. Dywedodd: "Datblygais i’r syniad ar gyfer fy musnes yn 2017 ac roedd yn rhwystredig ceisio cael hyd i’r bobl orau i siarad â nhw. 

"Rwy’ nawr yn bwriadu datblygu fy musnes ac rwy’n credu bod cael un lle i fynd iddo’n syniad gwych."

Roedd Paul Cox, Ymgynghorydd Cludiant a Logisteg gydag InXpress, yng nghanolfan Springboard, hefyd yn y lansiad a dywedodd: "Rydw i wedi gweithio mewn datblygiad busnes am ryw 14 mlynedd a dydw i ddim wedi gweld unrhyw beth fel hyn o’r blaen. 

"Rydw i’n edrych ymlaen at weld sut all y gwasanaeth gefnogi datblygiad busnes."

Wrth siarad yn y digwyddiad yng Nghanolfan Arloesi Busnes Springboard Innovation Centre, yng Nghwmbrân, dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Ni yw'r awdurdod cyntaf yng Nghymru a’r unig un ar hyn o bryd i gynnig un man cyswllt ar gyfer gwasanaethau’r cyngor a chyngor busnes.

"Mae hyn yn rhywbeth i fod yn falch ohono ac mae’n dangos ein hymrwymiad i dyfu ein heconomi trwy gefnogi busnesau i oroesi a thyfu a gosod ein hunain yn y sefyllfa o fod yn Awdurdod sy’n canolbwyntio ar fusnes, gan ddeall anghenion ein cymuned busnes.

"Mae Cyswllt Busnes yn wasanaeth gyda ffocws ar y cwsmer ble mae anghenion ein busnesau lleol wedi bod yn ganolog ym mhob gweithgaredd i ffurfio’r gwasanaeth.  Mae gyda ni wasanaeth nawr a fydd yn rhoi profiad cwsmer o ansawdd sydd wedi ei bersonoli ac sy’n gadarnhaol."

Bydd Cyswllt Busnes Torfaen yn rhoi un pwynt cyswllt ar gyfer pob ymholiad busnes, o ymholiadau cynllunio ac iechyd amgylcheddol, i gyngor ar grantiau ac ariannu, yn ogystal â chefnogaeth datblygiad busnes. 

Mae’r prosiect wedi ei ariannu diolch i £287,447 o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac mae’n rhan o gynllun ehangach y cyngor i annog busnesau lleol a denu buddsoddiad newydd i’r fwrdeistref.

I gysylltu â’r gwasanaeth, cysylltwch â businessdirect@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01633 648735. Fel arall gallwch gysylltu trwy wefan y cyngor.

Diwygiwyd Diwethaf: 07/03/2023 Nôl i’r Brig