Cymorth i fusnesau bwyd

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 6 Mawrth 2023
bee-hives-farm_crop

Farmer Adam Tovey next to a bee hive

Mae prosiect wedi'i lansio yn cynnig grantiau i fusnesau bwyd i'w helpu i arallgyfeirio cynnyrch lleol neu dreialu technegau cynhyrchu newydd.

Mae Rhaglen Gwydnwch Bwyd Torfaen yn cynnig grantiau o hyd at £15,000 fel rhan o gynllun i gynyddu faint o fwyd sy'n cael ei gynhyrchu'n lleol. Mae ceisiadau ar agor nawr tan ddydd Gwener 31 Mawrth.

Bydd y rhaglen hefyd yn cynnig grantiau o hyd at £15,000 i grwpiau cymunedol sy'n cefnogi teuluoedd mewn tlodi bwyd i ddatblygu datrysiadau cynaliadwy, fel tyfu cymunedol a dosbarthu gwastraff bwyd. Mae disgwyl i geisiadau agor ym mis Mai.

Dyfarnwyd chwe grant i fusnesau fel rhan o'r prosiect hwnnw y llynedd, gan gynnwys Fferm Pen yr Ynys, yn Llantarnam, Cwmbrân. Fe wnaethon nhw ddefnyddio'r arian i brynu mwy o gychod gwenyn i gynyddu eu cynhyrchiad o fêl lleol.

Dywedodd y ffermwr, Adam Tovey: "Fe wnaeth y grant Food4Growth alluogi'r fferm i fuddsoddi mewn ffynhonnell incwm amgen ar adeg pan mae cyllid yn dynn ac mae dyfodol cymhorthdal fferm yn ansicr.

"Mae'r gwenynfeydd yn ategu'r arferion fferm presennol sy'n cael eu defnyddio ac yn gallu tyfu ochr yn ochr â mi wrth i mi ddysgu a chael mwy o brofiad. Mae hefyd yn brofiad gwych pan mae rhywun yn gofyn am jar o fêl ac yn dangos diddordeb yn y gwenyn."

Mae Rhaglen Gwydnwch Bwyd Torfaen yn un o nifer o brosiectau sy'n cael eu datblygu i helpu Torfaen i ennill statws Lle Bwyd Cynaliadwy.

I wneud cais am grant busnes, cysylltwch â Cyswllt Busnes Torfaen ar businessdirect@torfaen.gov.uk neu 01633 648735.

Diwygiwyd Diwethaf: 06/03/2023 Nôl i’r Brig