Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 9 Mehefin 2023
Mae disgwyl i filoedd o bobl heidio i Lyn Cychod Cwmbrân y penwythnos yma ar gyfer y Digwyddiad Mawr blynyddol.
Bydd y diwrnod o hwyl – sy’n cael ei drefnu can Gyngor Cymuned Cwmbrân – yn digwydd y Dydd Sadwrn yma, rhwng 12pm-5pm.
Bydd yna ffair, cestyll chwyddadwy, cwrdd ag anifeiliaid, cerddoriaeth fyw, bwyd crefftwyr a stondinau crefft a mwy.
Bydd ein tîm gwastraff ac ailgylchu yno hefyd gydag un o’n tryciau newydd y bydd plant yn gallu dringo iddo. Byddan nhw hefyd yn gallu ateb eich cwestiynau am ailgylchu a rhannu cyngor, fel rhan o’n hymgyrch Codi’r Gyfradd.
A bydd tîm etholiadau’r cyngor wrth law i gynorthwyo trigolion gydag ymholiadau am gofrestru dogfennaeth adnabod pleidleiswyr
Mae manylion pellach am y Digwyddiad Mawr ar gael yn https://www.cwmbran.gov.uk/cwmbran-big-event-10-june-2023/