Canolfan brofi'r diwydiant adeiladu yn agor

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 28 Gorffennaf 2023

Mae canolfan brofi newydd ar gyfer unrhyw un sy'n awyddus i weithio yn y diwydiant adeiladu wedi cael ei hagor gan Gyngor Torfaen.

Bydd y ganolfan yng Nghanolfan Addysg Gymunedol Pont-y-pŵl yn darparu cardiau Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS), sy'n cael eu cydnabod yn eang fel y safon ar gyfer profi cymhwysedd galwedigaethol yn y diwydiant adeiladu.

Mae'r prawf yn costio £56, ond mae opsiynau ariannu ar gael i unigolion cymwys drwy'r prosiect CELT Plus.

Mae'r ganolfan brofi yn cael ei rhedeg gan wasanaeth Dysgu Cymunedol i Oedolion y cyngor ac mae'r llinell cadw lle ar agor bob dydd Llun i ddydd Iau, 8:30am i 9:15pm a dydd Gwener rhwng 8:30am a 4pm.

Yn ystod gwyliau'r ysgol, bydd y llinell i gadw lle ar agor rhwng 8.30am a 4.30pm, o ddydd Llun i ddydd Iau.

Drwy gwblhau'r prawf cerdyn CSCS yn llwyddiannus, gall crefftwyr sicrhau eu bod yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen i gyflawni eu gwaith yn effeithiol ac yn ddiogel o fewn safleoedd adeiladu.

Mae'r dilysiad hwn yn ofyniad hanfodol i unrhyw un sy'n chwilio am waith yn y diwydiant adeiladu.

I fynegi diddordeb yn y profion cerdyn CSCS neu holi ymhellach, gall unigolion gysylltu â thîm Dysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen dros y ffôn ar 01633 647647 neu e-bostio course.enq@torfaen.gov.uk.

Dywedodd Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen ar gyfer Economi, Sgiliau ac Adfywio, y Cynghorydd Joanne Gauden: “Rwy'n falch iawn o gyhoeddi lansiad ein Canolfan Brofi CSCS newydd ar ein safle Dysgu Cymunedol i Oedolion ym Mhont-y-pŵl. Bydd y fenter hon nid yn unig yn rhoi gwerth aruthrol i'n cymuned, ond bydd hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad cyffredinol ein trigolion.

“Drwy gynnig y Prawf CSCS ar y safle, rydyn ni’n dileu rhwystrau diangen drwy ei wneud yn fwy hygyrch i'n trigolion. Bydd y cyfle hwn yn agor drysau i gyflogaeth ac yn grymuso preswylwyr i ddod yn weithwyr medrus yn y diwydiant adeiladu.

“Ein nod yw gwella sgiliau cyflogadwyedd ein trigolion a meithrin twf economaidd — mae cael canolfan Brofi CSCS wedi'i chymeradwyo gan CITB ar y safle yn caniatáu i ni gyfrannu at y ddau. Rydyn ni’n gyffrous am yr effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael ar Dorfaen, ac edrychaf ymlaen at gefnogi ein cymuned ar eu taith tuag at lwyddiant personol a phroffesiynol.”

Cyfeiriad Canolfan Brofi CSCS
Dysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen 
Canolfan Addysg Gymunedol Pont-y-pŵl,
Heol Trosnant, Pont-y-pŵl, Torfaen NP4 8AT
Diwygiwyd Diwethaf: 28/07/2023 Nôl i’r Brig