£7.6 miliwn i Bont-y-pŵl o Gronfa Codi'r Gwastad

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 19 Ionawr 2023
Secretary of State for Wales, David TC Davies, visiting Pontypool

Mae Pont-y-pŵl yn un o ddim ond 11 o brosiectau yng Nghymru a fydd yn derbyn grantiau gan Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU sy’n anelu at greu swyddi a thyfu’r economi leol. 

Bydd y grant gwerth £7.6 miliwn yn helpu i ariannu prosiect £9.3 miliwn Hwb Diwylliannol Pont-y-pŵl y bydd rhan ohono’n trawsnewid adeiladau anghyfannedd yn ganolfan ddiwylliannol ffyniannus gyda bwyty newydd i hybu’r economi gyda’r hwyr ac apêl y dref.

Bydd y buddsoddiad yn:

  • trawsnewid Eglwys Sant Iago, adfail rhestredig Gradd II i fod yn ganolfan ddiwylliannol ffyniannus gyda sinema sbonc, bwyd sbonc a lle ar gyfer arddangosfeydd, bar gyda lle i eistedd yn yr awyr agored a dan do a lle i ddigwyddiadau cymunedol
  • troi toiledau cyhoeddus yn gaffi/bwyty a fydd yn cynnig bwyd caffi o ansawdd uchel yn ystod y dydd, ac a fydd yn troi’n fwyty “platiau bach” gyda’r hwyr
  • troi’r maes parcio presennol i fod yn lle diogel i barcio i bobl sy’n defnyddio’r cyfleusterau yma a’r dref

Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros yr economi, Sgiliau ac Adfywio: “Mae’r hwb diwylliannol yn gonglfaen ein cynlluniau Creu Lle ar gyfer Pont-y-pŵl.  Bydd yr atyniadau newydd yn rhoi dolen gyswllt rhwng y stryd fawr a rhai o atyniadau mwyaf poblogaidd y dref, fel bydd y miloedd o bobl sy’n defnyddio’r parc, y gamlas neu’r amgueddfa’n cael eu tynnu i mewn i ganol y dref. Mae gennym adnoddau gwych yn y dref a bydd y prosiectau yma i gyd yn cynnig rheswm i ymweld â Phont-y-pŵl gyda’r hwyr.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cyng. Anthony Hunt: “Rwy’n hynod o falch bod ein cais ar gyfer Pont-y-pŵl wedi bod yn llwyddiannus.  Mae’r prosiect yn ymwneud ag adeiladu dyfodol cadarnhaol i’r dref a hefyd yn rhan o’n cynlluniau ehangach  sy’n dod â swyddi a buddsoddiad; dod ag adeiladau nodedig yn ôl at ddefnydd; a dod a phobl yn ôl i’r dref. Mae gyda ni eisoes barc anhygoel a chlwb rygbi gorau’r byd – mae’r prosiect yma’n ceisio adeiladu ar y cryfderau hynny a sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i ganol y dref.”

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies: “Mae hwn yn fuddsoddiad arwyddocaol iawn mewn prosiectau gwirioneddol arwyddocaol ledled Cymru.  Rwy’n falch o weld cymaint o geisiadau llwyddiannus ar draws y wlad ar gyfer cynlluniau a fydd yn cael effaith am genedlaethau i ddod.” 

Mae cyfanswm o 11 o brosiectau yng Nghymru wedi cael mwy na £208 miliwn o Gronfa Codi’r Gwastad. Bydd y prosiectau’n creu swyddi, yn gyrru twf economaidd, yn helpu i adfer balchder pobl yn eu bröydd ac yn lledaenu cyfleoedd mewn ffordd fwy cyfartal.

Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn lansio heddiw map rhyngweithiol ar-lein fel y gall pobl weld pa brosiectau yn eu hardaloedd sy’n derbyn buddsoddiad o Gronfa Codi’r Gwastad.  Bydd hwn ar gael yn levellingup.campaign.gov.uk

Disgwylir i brosiect yr Hwb Diwylliannol gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2025.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/01/2023 Nôl i’r Brig