Gwasanaeth i drawsnewid cymorth busnes

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 22 Chwefror 2023

Bydd gwasanaeth newydd i helpu a chefnogi mwy na dwy fil a hanner o fusnesau yn Nhorfaen yn cael ei lansio fis nesaf. 

Bydd Cyswllt Busnes Torfaen yn cynnig siop un stop ar gyfer ymholiadau busnes, o ymholiadau cynllunio ac iechyd amgylcheddol, i gyngor ar grantiau ac ariannu, yn ogystal â chymorth datblygiad busnes. 

Bydd yn cael ei reoli gan dîm newydd Ymgysylltiad Busnes Torfaen yng Nghyngor Torfaen ac mae’n rhan o gynllun ehangach y Cyngor i annog busnesau lleol a denu buddsoddiad newydd i’r fwrdeistref. 

Mae’r cynlluniau wedi cael cefnogaeth busnesau lleol, gan gynnwys fforwm Llais Busnes Torfaen sy’n cynrychioli 50 o gwmnïau lleol.  

Dywedodd y Cadeirydd, Ashley Harkus, sy’n rheolwr bartner gydag Everett, Tomlin, Lloyd and Pratt, cyfreithwyr, ym Mhont-y-pŵl: “Pan brynon ni ein swyddfa ym Mhont-y-pŵl yn 2020, roedd angen i ni siarad â nifer o adrannau gwahanol.  

“Fe gawson ni’r cymorth yr oedd ei angen arnom ni, ond os ydych chu’n fusnes newydd neu’n newydd i Dorfaen, byddwch chi ddim yn gwybod, o reidrwydd, pwy i gysylltu â nhw.  

“Bydd cael un pwynt cyswllt yn cyflymu’r amser mae’n cymryd i fusnesau gael y wybodaeth a’r cyngor y mae eu hangen arnyn nhw.”  

Bydd Cyswllt Busnes Torfaen yn cynnig un rhif ffôn ac un cyfeiriad e-bost ar gyfer unrhyw ymholiad busnes, a bydd pob ymholiad yn cael ei ddilyn gan y tîm er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei drin yn llwyddiannus.  

Mae’r prosiect wedi ei ariannu diolch i £287,447 o Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU, fel rhan o brosiect ehangach i gefnogi ymgysylltiad busnes yn Nhorfaen.

Dywedodd y Cynghorydd Jo Gauden, yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Bydd Cyswllt Busnes Torfaen yn cynnig gwasanaeth cyflymach a mwy effeithlon, a fydd yn arbed amser i fusnesau. Bydd hefyd yn sicrhau bod perchnogion busnesau’n ymwybodol o’r amrywiaeth eang o gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw.    

“Ar hyn o bryd, mae dros 40 y cant o fusnesau yn Nhorfaen yn methu yn y tair blynedd gyntaf. Rydym am sicrhau ein bod yn gwneud bod dim y gallwn i helpu’r busnesau yma lwyddo a ffynnu.”

Nodiadau i olygyddion: Bydd gwasanaeth newydd Cyswllt Busnes Torfaen yn cael ei lansio mewn digwyddiad yng Nghanolfan Arloesi Busnes Springboard ar ddydd Mawrth, 7 Mawrth, rhwng 11am a 12.30pm.  Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â Kate Blewitt ar kate.blewitt@torfaen.gov.uk neu 01633 648735. 

Yn y llun: Ashley Harkus a’r Cynghorydd Jo Gauden

Diwygiwyd Diwethaf: 22/02/2023 Nôl i’r Brig