Wedi ei bostio ar Dydd Iau 16 Chwefror 2023
Mae aelodau’r Cabinet wedi cytuno i gynyddu nifer y glaswelltiroedd a reolir mewn ffordd gynaliadwy yn Nhorfaen er mwyn cynyddu bioamrywiaeth leol a helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae gan y fwrdeistref ar hyn o bryd mwy na 120 o ardaloedd ble mae lladd gwair wedi ei leihau ac mae blodau gwyllt yn cael eu hannog i dyfu.
Bydd hanner cant ac un o ardaloedd newydd yn cael eu hychwanegu at y dechneg torri a chasglu blynyddol dros y ddwy flynedd nesaf, ar ôl ymgynghoriad gyda chynghorwyr lleol a chymunedau.
Mae'r dechneg torri a chasglu’n caniatáu i fannau dyfu trwy fisoedd y Gwanwyn a’r Haf cyn iddyn nhw gael eu torri. Trwy adael i laswelltiroedd dyfu, mae mwy o flodau gwyllt yn cael eu gadael i flodeuo am amser hirach, gan roi cynefin i fywyd gwyllt a phryfed peillio fel gwenyn a gloÿnnod byw. Mae gadael planhigion i dyfu gwreiddiau hirach a mwy o faint yn golygu eu bod yn storio mwy o garbon yn y pridd, gan helpu i daclo newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn creu mwy o awyr yn y pridd, gan helpu i leihau effaith llifogydd.
Mae’r safleoedd newydd yn cynnwys naw ym Mlaenafon; dau yng Nghoed Efa; saith yng Nghroesyceiliog; un y Fairwater; un yng Ngarndiffaith a Varteg; tri yn Nwyrain Tref Gruffydd; tri yn Lowlands ac Avondale; un yn Llantarnam; saith yn Llanyrafon; un yn y Dafarn Newydd; un ym Mhonthir; un ym Mhontnewydd, tri yn Snatchwood; un ym Mhentre Isaf; dau yn Sain Derfel; tri yn Nhrefddyn; dau yn Nwy Loc; un yng Nghwmbrân Uchaf a dau yn Waunfelin.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Rydym mewn argyfwng o ran yr hinsawdd, a nawr, yn fwy nag erioed, mae angen i ni gefnogi’n bywyd gwyllt a’n hamgylchedd.
“Dyw natur ddim yn daclus, a dyma pam byddwn yn gwneud yn siŵr bod gan ein safleoedd presennol a chyfredol i gyd arwyddion clir i wneud yn siŵr bod trigolion yn deall pam fod y safleoedd yn cael eu gadael yn nwylo natur.
“Bydd gan yr arwyddion god QR a fydd yn mynd â phobl at wefan y Cyngor a fydd yn esbonio mwy am sut yr ydym yn rheoli natur yn y fwrdeistref.”
Dywedodd Veronika Brannovic, Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol gyda Chyngor Torfaen: “Mae’r newidiadau i arferion lladd gwair ar draws y fwrdeistref sirol eisoes wedi dangos bod modd i ni, hyd yn oed mewn mannau bach, wneud gwahaniaeth i fywyd gwyllt a lles.
“Rydym yn gweld cynnydd mewn blodau gwyllt, pryfed, a rhywogaethau eraill ac rydym yn bwriadu ehangu’r rhaglen pob blwyddyn i wneud y mwyaf o’r buddion a welwyd eisoes a helpu i addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd”.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i adferiad natur, gan ymrwymo i reoli 30% o dir mewn ffordd effeithiol a theg erbyn 2030 a, fis Mai diwethaf, daeth y Gweinidog Newid yn yr Hinsawdd, Julie James, i ymweld â safle torri a chasglu yn Nhorfaen. Bydd y newid yn nulliau Torfaen yn cyfrannu at y targed cenedlaethol yma. Darllenwch fwy am ymweliad y Gweinidog