Dirwy i siop gludfwyd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 15 Rhagfyr 2023

Mae siop gludfwyd ym Mhont-y-pŵl wedi cael dirwy am arddangos sticer sgôr hylendid bwyd nad oedd yn ddilys.

Ddoe, fe glywodd Llys Ynadon Casnewydd fod Denise’s Fish Bar yn rhif 105 The Highway, Y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl, wedi arddangos sticer sgôr hylendid bwyd nad oedd yn ddilys. Fe gododd y sefyllfa yn dilyn arolygiad hylendid bwyd arferol ar 28 Mawrth 2023, pan aeth sgôr hylendid bwyd y siop gludfwyd i lawr o 3 (Boddhaol yn Gyffredinol), i 1 (Angen Gwelliant Sylweddol) i adlewyrchu’r safonau a ganfuwyd.

Clywodd y Llys ymhellach fod Cyfarwyddwr y Cwmni, Ugur Saridas, wedi gwrthod sawl gwaith i osod y sticer newydd yn dangos y sgôr o 1 yn lle’r sticer a ddangosai’r sgôr o 3. Arweiniodd hyn at hysbysiad cosb benodedig o £200, a dewisodd beidio â thalu’r ddirwy.

Plediodd Mr. Saridas yn euog i arddangos sticer sgôr hylendid bwyd nad oedd yn ddilys. Cafodd ddirwy o £600, wedi’i gostwng i £400 am bledio’n euog yn gynnar, a gorchymyn i dalu costau llawn Cyngor Torfaen sef £880, a gordal dioddefwyr o £180.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros Yr Amgylchedd: “Mae’r gyfraith ynghylch arddangos sticeri sgôr hylendid bwyd dilys wedi bod mewn grym yng Nghymru ers 10 mlynedd.

“Mae sgoriau yn rhoi gwybodaeth bwysig, fel bod defnyddwyr yn gallu dewis yn ddeallus ble maen nhw eisiau bwyta a phrynu bwyd a, chwarae teg i fusnesau bwyd yn Nhorfaen, mae’r mwyafrif ohonynt yn dangos eu sgôr gywir.

Er i’r busnes arddangos y sticer cywir yn y pendraw, camarweiniwyd y cyhoedd ynghylch y safonau hylendid yn Denise’s Fish Bar am 22 o ddiwrnodau.

Gallai’r erlyniad hwn fod wedi cael ei osgoi, petai’r perchennog wedi arddangos sticer sgôr dilys ac wedi cymryd y cyfle i dalu’r hysbysiad cosb benodedig, yn hytrach na wynebu £1,460 mewn dirwyon a chosbau.

Mae gwybodaeth am sgôr hylendid bwyd pob busnes bwyd ar Chwilio am sgôr hylendid bwyd | Sgoriau Hylendid Bwyd (food.gov.uk). Buaswn i’n annog busnesau bwyd newydd sy’n gweithredu yn Nhorfaen, neu fusnesau bwyd sydd eisoes yn gweithredu, sydd ag unrhyw gwestiynau am ddiogelwch bwyd a hylendid bwyd, i gysylltu â’r Cyngor."

I gael rhagor o wybodaeth am hylendid bwyd cysylltwch â Chyswllt Busnes Torfaen ar 01633 648735 neu anfonwch neges e-bost i businessdirect@torfaen.gov.uk

DIWEDD

Cafodd Denise’s Fish Bar ail arolygiad ar 9 Mehefin 2023 a nawr mae gan y busnes sgôr hylendid bwyd o 3 (Boddhaol yn Gyffredinol).

Diwygiwyd Diwethaf: 15/12/2023 Nôl i’r Brig