Cymorth gan fusnesau yn creu cryn argraff ar elusen

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 14 Rhagfyr 2023
Women's Aid cheque presentation

Mae’r gefnogaeth a gafwyd yn dilyn noson Menywod mewn Busnes, Cyngor Torfaen a gynhaliwyd fis diwethaf wedi creu cryn argraff ar elusen. 

Mae Cyfannol, elusen Cymorth i Fenywod, wedi derbyn cynigion o gymorth yn dilyn y digwyddiad, fel triniaeth ddeintyddol am ddim yn Sparkle Dental Care  i’r rheini sydd wedi goroesi camdriniaeth; dillad am ddim i blant gan Wet Wednesdays a gweithdai am ddim gan Creative Crafts with Bernadette.

Codwyd dros £1,500 i'r elusen hefyd drwy werthu tocynnau a gwobrau raffl.

Meddai Amy Bushell, rheolwr codi arian, Cyfannol: "Roedd bod yn nigwyddiad Menywod mewn Busnes Torfaen yn gyfle gwych. Nid wyf erioed wedi gweld ymateb o'r fath i raffl! Bydd cyfanswm y tocynnau raffl a brynwyd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'r rhai sydd ei angen fwyaf.

"Yr hyn a oedd yn hynod drawiadol oedd yr holl wasanaethau ychwanegol a gynigiwyd i’r rheini yr ydym yn eu cefnogi. Aeth y menywod yno allan o'u ffordd i ddweud wrthym am y cynhyrchion a'r gwasanaethau y gallent eu darparu ar gyfer ein cymuned."

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Rwyf mor falch bod y digwyddiad wedi codi arian ar gyfer elusen mor werthfawr, ond mae clywed eu bod hefyd wedi elwa o'r cyfleoedd rhwydweithio sydd ar gael yn wych.

"Mae'n dangos beth all ddigwydd pan fyddwch chi'n dod â grŵp o ferched cefnogol o'r un anian at ei gilydd."

Daeth dros 100 o fenywod busnes ac entrepreneuriaid i ddigwyddiad Menywod mewn Busnes, yng Ngwesty'r Parkway, yng Nghwmbrân, a drefnwyd gan y Tîm Ymgysylltu â Busnes, ac a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.  

Ymhlith y siaradwyr roedd Kelli Aspland a Laura Waters o gwmni Solar Buddies, Cwmbrân, a Gaynor Coley, cyn-reolwr Gyfarwyddwr Prosiect Eden, o Gwmbrân. 

I gael gwybod am y digwyddiad y flwyddyn nesaf, neu i ddarganfod sut y gall Cyngor Torfaen gefnogi eich busnes, ewch i Gyswllt Busnes Torfaen. Gallwch hefyd gysylltu â'r tîm ar businessdirect@torfaen.gov.uk.

Llun o’r chwith i’r dde: Amy Bushall; Y Cynghorydd Joanne Gauden; Kate Blewitt, Y Tîm Ymgysylltu â Busnes

Diwygiwyd Diwethaf: 14/12/2023 Nôl i’r Brig