Mentrwyr ifanc yn cael hwb

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 6 Rhagfyr 2023
Young biz club cropped

Mae grŵp o fentrwyr wedi cymryd rhan mewn cwrs newydd sy’n cefnogi pobl ifanc mewn busnes yn Nhorfaen.

Mae’r mentrwyr, sydd rhwng 18 a 30 oed, wedi cymryd rhan yn y rhaglen wyth wythnos o hyd a drefnwyd gan dîm ymgysylltiad busnes Cyngor Torfaen.   

Dyma’r tro cyntaf i Glwb 5-9 Torfaen ganolbwyntio ar bobl ifanc, gan ymdrin â phynciau fel gwerthiant a marchnata, cyllid a chyflwyno syniadau.

Dywedodd Yvette Viner, 30, o Gwmbrân, perchennog Yvette Viner Jewellery: "Sefydlais i fy musnes yn gwneud gemwaith o fetelau gwerthfawr yn 2019 ond roedd yn fwy o hobi na dim.

"Mae’r cwrs yma wedi rhoi hyder i mi ac wedi fy nghyffroi digon i mi adeiladu fy musnes."

Yfory, bydd y mentrwyr yn cael cyfle i ddangos eu syniadau i gynrychiolwyr busnes mewn digwyddiad arbennig yng Ngwesty Parkway yng Nghwmbrân. 

Ymhlith y syniadau busnes mae cynlluniau ar gyfer caffi chwarae i blant, therapi harddwch figanaidd, bar a mannau lletygarwch, llythrennedd corfforol i blant, golygu a chyhoeddi a gemwaith crisial a chynhyrchion hunanofal.

Dywedodd y Cynghorydd Jo Gauden, yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Rwy’n edrych ymlaen at glywed am eu syniadau cyffrous a chael fy ysbrydoli gan eu hangerdd a’u brwdfrydedd.

"Bydd y bobl ifanc yma’n berchnogion busnes ac yn gyflogwyr y dyfodol ac, fel cyngor, rydym yn edrych ymlaen at eu cefnogi wrth i’w busnesau ddatblygu."

Ychwanegodd Hope Weyman, o’r cwmni arloesi busnes, Welsh ICE: "Mae cydweithio gyda Chyngor Torfaen gyda’r Clwb 5-9 i fentrwyr ifanc o dan 30 oed wedi bod yn werth chweil iawn. 

"Mae’r synergedd o fewn yr ecosystem fach yma’n creu rhwydwaith o gefnogaeth a chyngor, gan ddangos y posibiliadau a’r arloesi sydd eto i’w gwireddu.

"Mae Welsh ICE yn falch o fedru cyfrannu at ddatblygiad sgiliau mentergar yn Nhorfaen, gan lunio tirwedd fusnes fywiog yng nghalon y cymoedd."

Mae’r Clwb 5-9 wedi ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y DU ac mae’n cynnwys aelodaeth flynyddol o Lais Busnes Torfaen.

Mae Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU yn faen canolog yn agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac mae’n rhoi £2.6 biliwn o arian ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn Mawrth 2025. Bwriad y Gronfa yw cynyddu balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, gan fuddsoddi mewn cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol a phobl a sgiliau.

I wybod sut gall Cyngor Torfaen helpu eich busnes, cysylltwch â Chysywllt Busnes Torfaen trwy businessdirect@torfaen.gov.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 06/12/2023 Nôl i’r Brig