Wedi ei bostio ar Dydd Iau 27 Ebrill 2023
Mae miliynau o aelwydydd yn mynd i gael mwy o gymorth gan Lywodraeth y DU er mwyn lleihau rhywfaint ar y straen ariannol yn sgil y cynnydd mewn costau byw.
Bydd aelwydydd sy’n gymwys yn cael tri Thaliad Costau Byw sy’n dod i gyfanswm o £900 dros gyfnod 2023/2024.
Bydd y taliad cyntaf o £301 yn cael ei dalu rhwng 25 Ebrill a 17 Mai a bydd ail daliad o £300 yn nhymor yr Hydref 2023, a thrydydd taliad o £299 yng Ngwanwyn 2024.
Bydd y taliad yn cael ei dalu i bobl sydd ar fudd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd: Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm a chredydau treth: Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith.
Caiff y Taliad Costau Byw ei dalu’n awtomatig ac felly os ydych yn gymwys ni fydd angen i chi wneud cais.
Caiff ei dalu ar wahân i daliadau budd-dal a bydd yn ymddangos yn eich cyfrif gyda’ch rhif Yswiriant Gwladol a’r geiriau DWP COLP. Ar gyfer cwsmeriaid sy’n cael credydau treth yn unig, bydd y cyfeirnod yn ymddangos yn eich cyfrif fel 'HMRC COLS', sy’n gyfeiriad at y geiriau ‘Cost of Living Support’.
Er mwyn i deuluoedd fod yn gymwys ar gyfer y taliad cyntaf, rhaid eu bod â hawl i gael un o’r canlynol (neu rhaid y darganfuwyd yn ddiweddarach fod hawl ganddynt i un ohonynt):
- Credyd Cynhwysol am gyfnod asesu a ddaeth i ben yn ystod y cyfnod o 26 Ionawr i 25 Chwefror, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm, Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn, ar unrhyw ddiwrnod yn ystod y cyfnod rhwng 26 Ionawr 2023 a 25 Chwefror 2023.
I gwsmeriaid sy’n cael credyd treth yn unig, rhaid eu bod wedi cael credydau treth ar unrhyw ddiwrnod yn ystod y cyfnod rhwng 26 Ionawr a 25 Chwefror 2023.
Nid oes angen i gwsmeriaid gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau na CThEF, na gwneud cais am y taliad, caiff ei dalu’n awtomatig i gyfrif pob un sy’n gymwys.
Am ragor o wybodaeth, ewch i’r dudalen Taliad Costau Byw ar gov.uk.