Cyn-beldroediwr yn lansio podlediad newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 27 Hydref 2022
Pocast pic sean

Mae’r cyn-beldroediwr, Sean Wharton, wedi siarad am yr hiliaeth a brofodd wrth dyfu ac yn ystod ei yrfa broffesiynol. 

Dywedodd Sean, a chwaraeodd i Sunderland a Thref Cwmbrân yn y 1980au: "Roedd tyfu’n anodd. Roedd yr ysgol yn anodd - doedd dim llawer o bobl oedd yn edrych fel fi. Roedden ni’n cael ein trin yn wahanol oherwydd lliw ein croen ac roedden ni’n ymladd yn aml.

"Roeddwn i’n ffodus oherwydd fy mod yn dda mewn chwaraeon, felly fe ges i fy nerbyn, ond chafodd eraill ddim."

Talodd Sean, a fu’n blentyn yng Nghasnewydd ond sydd bellach yn byw yng Nghwmbrân, deyrnged i gryfder a gwydnwch ei rieni a oedd yn golygu ei fod ef a’i frodyr a chwiorydd wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus.

Roedd y dyn busnes, sy’n ymgyrchu dros gydraddoldeb hiliol, yn siarad ar bodlediad newydd a lansiwyd gan dîm cydlyniant Cyngor Torfaen i nodi Mis Hanes Pobl Ddu.

Mae podlediad Valleys Voices yn ceisio hyrwyddo lleisiau amrywiol o gymoedd Gwent.

Dywedodd y cyflwynydd, Harriet Leek, sy’n gweithio i dîm Cydlyniant Cymunedol Gorllewin Gwent: "Efallai bod y bobl ydym ni a sut yr ydym yn ymddangos yn wahanol ond mae ble rydym yn byw yn rhywbeth sy’n gyffredin i ni gyd.

"Mae’r podlediad yma’n ceisio sicrhau bod lleisiau’r rheiny sy’n cael eu clywed llai yn ein cymunedau’n cael eu clywed.  Mae wedi bod yn bleser siarad gyda fy ngwesteion ac rwy’n gobeithio bydd gwrandawyr yn mwynhau clywed ganddyn nhw hefyd."

Fel rhan o’r podlediad, mae Harriet hefyd yn clywed gan Noah Nyle, dyn trawsryweddol sy’n siarad am ei siwrnai bersonol ac am fod yn lladmerydd ar ran y gymuned LHDThQ+, ac Emily Parker, sy’n siarad am fod yn fenyw hoyw mewn rygbi.

Cyn hir, bydd Harriet yn cwrdd â ffoadur o Affganistan sy’n byw nawr yn Abertyleri ac yn siarad â siaradwyr Cymraeg ifanc am ddefnyddio’r iaith mewn ardal sy’n bennaf yn Saesneg ei hiaith.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Jones, yr Aelod Gweithredol dros Lywodraethiant Corfforaethol a Pherfformiad: "Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i glywed gan bobl yn ein cymunedau nad ydym yn clywed eu lleisiau bob amser.

"Mae ein cymunedau amrywiol yn rhan o frithwaith cyfoethog ein cymdeithas ac maen nhw’n haeddu cael eu dathlu."

Mae podlediad Valleys Voices ar gael i’w lawrlwytho ar Spotify ac Apple iTunes, neu gallwch wrando trwy ein gwefan.

Dilynwch #ValleysVoices ar Facebook, Instagram a Twitter am y diweddaraf.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/10/2022 Nôl i’r Brig