Uwchraddio system Civica Pay Education

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 20 Hydref 2022

Neges bwysig i Rieni/Gofalwyr

Ni fydd system Civica Pay Education ar gael bore yfory (21/10/22) oherwydd uwchraddiad diogelwch a gwelliant. 

Ni fydd modd gwneud taliadau rhwng 10am a 1pm a gofynnir i rieni a gofalwyr i beidio â mewngofnodi yn ystod yr amser yma.

Os ydych yn gwneud taliadau achlysurol, ni fydd y newid yma’n effeithio arnoch chi, heblaw y bydd disgwyl i chi fynd trwy broses wirio ychwanegol os byddwch yn dewis arbed eich cerdyn neu danysgrifio i daliadau awtomataidd.

Os ydych chi wedi cadw cerdyn ar eich cyfrif neu wedi tanysgrifio i daliadau awtomataidd bydd gofyn i chi wneud gwiriad diogelwch un tro cyn defnyddio’ch cerdyn yn y ffordd yma. 

Cardiau wedi eu Cadw

Ni fyddwch yn gallu defnyddio’r cardiau yr ydych wedi eu cadw wrth i chi dalu heb fynd trwy'r gwiriad un tro yma.  Cyn gwneud unrhyw daliadau pellach, fe’ch cynghorir i ddileu eich cardiau i gyda sydd wedi eu cadw a’u hychwanegu eto gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin, a fydd mwy na thebyg yn golygu mewnosod eich cyfeiriad ar gyfer y cerdyn sy’n cael ei gadw.

Tanysgrifiadau Taliadau Awtomataidd

Fel rhan o’r uwchraddio, mae pob tanysgrifiad wedi ei ddileu felly bydd gofyn i chi ail-danysgrifio. Mae hyn oherwydd bod angen i’r cerdyn defnyddioch chi i sefydlu’r taliad awtomataidd gael ei ddileu a’i ychwanegu eto fel nodwyd uchod. Bydd angen i chi ddilyn y camau isod :-

  1. Dileu eich cerdyn sydd wedi ei gadw
  2. Ail-gadw eich cerdyn gan wneud y gwiriadau diogelwch ychwanegol
  3. Ail-danysgrifio i’r gwasanaeth taliadau awtomataidd

Hefyd, oherwydd bod y taliadau awtomataidd yn cael eu cymryd pan nad ydych chi’n defnyddio’r systemau (h.y. maen nhw’n cael eu cymryd pan fo’r gweddill wedi cyrraedd y trothwy,) bydd y gwiriad yn cynnwys cyflwyno taliad gwirio prawf am 10c.  Nid yw’r 10c yn cael ei dynnu fel taliad o’ch cerdyn nac ar eich cyfrif cinio ysgol, ond efallai gwelwch chi’r taliad fel un sy’n aros tro ar eich ap bancio ar-lein neu’ch datganiad banc. Bydd yn diflannu ar ôl ychydig ddyddiau, bydd yr amseru’n dibynnu ar eich banc. 

Os byddwch yn cael unrhyw broblemau, danfonwch e-bost os gwelwch yn dda at educationpayments@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 18/05/2023 Nôl i’r Brig