Ysgolion yn lansio Cynlluniau Teithio Llesol

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 13 Hydref 2022

Dwy ysgol gynradd yng Nghwmbrân yw’r cyntaf yn Nhorfaen i lansio Cynlluniau Teithio Llesol newydd

Datgelodd Ysgol Gymunedol Ffordd Blenheim ac Ysgol Gynradd Coed Efa eu cynlluniau'r mis yma, fel rhan o fis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys ymrwymiad i gynyddu nifer y plant a’r staff sy’n cerdded, yn mynd ar sgwter neu’n seiclo i’r ysgol, trwy wersi a chyfarfodydd ysgol yn ymwneud â buddion teithio llesol, yn ogystal â digwyddiadau i ddathlu Wythnos Cerdded i’r Ysgol.

Mae disgyblion ac athrawon yn cael eu hannog hefyd i deithio’n llesol i’r ysgol, i wersi oddi ar y safle ac unrhyw ddigwyddiadau ysgol pan fo hynny’n bosibl.

Dywedodd Stacey Knight, Pennaeth Dysgu Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Ffordd Blenheim a Choed Efa, “Fel ysgol, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo teithio llesol.

“Mwynhaodd ein plant blwyddyn 4 yn ystod tymor yr haf bod yn rhan o’r rhaglen ac yn gwneud gwahaniaeth i’n hysgol a’n cymuned leol.”

Mae’r ysgolion wedi cael eu cefnogi gan dîm Teithio Llesol Cyngor Torfaen, sydd hefyd yn gweithio gydag ysgolion eraill i ddatblygu Cynlluniau Teithio Llesol Ysgolion.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Gall gwneud newidiadau i’r ffordd yr ydych yn teithio gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a’ch iechyd.

“Bydd cael llai o geir yn parcio’n agos at ysgolion hefyd yn gwella diogelwch i ddisgyblion a brodyr a chwiorydd iau.

“Rydym yn edrych ymlaen at ganfod pa wahaniaeth mae’r cynlluniau’n gwneud i gyfraddau teithio llesol yn yr ysgolion, ac at weithio gydag ysgolion eraill i ddatblygu eu cynlluniau teithio llesol.”

Os hoffai’ch ysgol wybod mwy am Gynlluniau Teithio Llesol Ysgolion, cysylltwch os gwelwch yn dda â Donna Edwards-John ar 07815 483281 neu drwy e-bost at Donna.Edwards-John@torfaen.gov.uk

 

 

Diwygiwyd Diwethaf: 13/10/2022 Nôl i’r Brig