Gwasanaeth Chwarae yn ennill gwobr glodfawr

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 4 Mawrth 2022
play service award

Mae gweithwyr chwarae Cyngor Torfaen wedi ennill gwobr genedlaethol wych am eu gwaith yn ystod y pandemig.

Enillodd tîm Gwasanaeth Chwarae Torfaen y wobr am ymateb i COVID yn seremoni Gwobrau Gwaith Chwarae Cenedlaethol yn Eastbourne yr wythnos hon.

Cydnabuwyd Chwarae Torfaen am y gwaith a wnaethant drwy gydol y pandemig, gyda mwy na 60 o weithwyr chwarae yn gweithio bob dydd mewn hybiau cymunedol i gysylltu gyda phlant gweithwyr allweddol a disgyblion a oedd yn agored i niwed.

Dathlwyd y gwasanaeth hefyd am greu a dosbarthu cannoedd o becynnau adnoddau chwarae i deuluoedd ac am ddarparu cyfoeth o weithgareddau a deunyddiau arlein i gefnogi rhieni a gofalwyr gydag addysgu yn y cartref.

Hefyd, cymerodd lawer o weithwyr chwarae ddyletswyddau ychwanegol gyda’r cyngor drwy helpu gyda chasgliadau gwastraff a dosbarthu prydau ysgol am ddim yng nghanol y pandemig. 

Meddai Aelod Gweithredol Torfaen ar gyfer Plant, Teuluoedd a Chymunedau, y Cynghorydd Fiona Cross: “Mae’r wych bod Chwarae Torfaen wedi ei gydnabod yn genedlaethol am yr holl ymdrechion a’r gwaith caled yn ystod y pandemig.

“Mae’r wobr yn destament i dull datrys problemau deinamig y mae’r gwasanaeth wastad wedi ei fabwysiadu wrth wynebu her. Mewn cyfnod mor ansicr, maent wedi canfod dulliau creadigol i gadw plant yn chwarae.

Arlein ac yn bersonol, maent wedi bod yn amhrisiadwy o ran darparu gwasanaethau i blant, gan gynnwys plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Da iawn tîm Chwarae Torfaen!”.

Yn y seremoni, nodwyd bod Chwarae Torfaen wedi mynd ‘ymhellach na’u rôl arferol i gefnogi eraill’, gan hyrwyddo hawl pobl plentyn i chwarae a gwella lles plant.

Dywedodd Julian Davenne, Rheolwr Gwasanaeth Chwarae Torfaen:

“Mae’r tîm gwasanaeth chwarae cyfan wrth eu boddau ar ôl derbyn y wobr hon. Rydym mor falch o’n gweithwyr chwarae am yr hyn y maent wedi ei wneud ar gyfer plant, teuluoedd a’r gymuned yn ehangach.

“Mae’r holl weithwyr chwarae yn bobl ifanc eu hunain, felly mae wedi bod yn hynod eu gwylio yn gwneud cyfraniad mor bositif i’w cymuned, yn ystod cyfnod a oedd yn anodd a heriol dros ben.”

Diwygiwyd Diwethaf: 04/03/2022 Nôl i’r Brig