Awdur yn nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Tourette

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 7 Mehefin 2022

I can’t make it stop’ yn helpu i addysgu ar Ddiwrnod Codi Ymwybyddiaeth ynghylch Tourette’s. 

I nodi Diwrnod y Byd Tourette’s ar y 7fed o Fehefin, fe wnaeth y Cynghorydd Anthony Hunt, arweinydd Cyngor Torfaen, ymweld ag Ysgol Uwchradd Gatholig Alban Sant i gwrdd â Lucy-Marie Phillips, y disgybl a’r awdur sydd wedi cyhoeddi ei llyfr ei hun.

Fe wnaeth Lucy-Marie, disgybl Blwyddyn 7 yn Alban Sant ddechrau cael symptomau pan oedd yn 8 oed a chafodd ddiagnosis o syndrom Tourette pan oedd yn 11 oed.

Llyfr Lucy-Marie ‘I Can’t Make It Stop’ yw ei dyddiadur personol sy’n delio â byw gyda Tourette’s, ac aeth ati i'w ysgrifennu i helpu ei hun a helpu i addysgu pobl ifanc a phobl hŷn.

Dywedodd y Cynghorydd Hunt: "Gwelais Lucy-Marie ar Newyddion BBC Breakfast ac mae bod yn awdur sydd wedi cyhoeddi ei llyfr ei hun mor ifanc yn gyflawniad gwych.

"Mae'r llyfr yn ddeniadol ac addysgiadol iawn ac rwy'n siŵr y bydd yn addysgu pobl ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth.

"Mae'r cyngor yn prynu copi o lyfr Lucy-Marie 'I Can't Make It Stop' i bob ysgol yn y fwrdeistref i helpu i godi ymwybyddiaeth ynghylch y cyflwr ymhlith yr holl ddisgyblion a staff, ac roedd yn hyfryd gweld pa mor hapus yw Lucy-Marie yn yr ysgol."

Dywedodd Steven Lord, Pennaeth Alban Sant: "Mae Lucy-Marie yn ddisgybl gwych ac mae hi wedi annerch y gwasanaeth boreol i drafod sut beth yw byw gyda chyflwr Tourette.

"Mae hi wedi bod yn wych o ran helpu ei ffrindiau a’r staff yn yr ysgol i ddeall syndrom Tourette cymaint yn well."

I nodi diwedd mis Ymwybyddiaeth Tourette’s ar y 15fed o Fehefin, bydd cyngor Torfaen yn goleuo’r Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl mewn lliw gwyrddlas i gefnogi Tourette’s a bydd cyflawniadau Lucy-Marie yn cael eu cydnabod yng nghyfarfod llawn nesaf y Cyngor ar yr 28ain o Fehefin.

Bydd Lucy-Marie yn llofnodi copïau o’i llyfr a chynnal bore coffi ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl ddydd Sadwrn, 11eg o Fehefin rhwng 10am ac 1pm.

Diwygiwyd Diwethaf: 07/06/2022 Nôl i’r Brig