Gwasanaeth Ieuenctid yn ennill aur

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 23 Mehefin 2022
youth service

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen wedi derbyn Nod Ansawdd Aur ar ôl arolygiad diweddar gan Lywodraeth Cymru.

Dyma’r lefel uchaf o gydnabyddiaeth sy’n dathlu’r gefnogaeth y mae gweithwyr ieuenctid yn rhoi i bobl ifanc i’w helpu i gyrraedd eu potensial. 

Mae’n dod wrth i Wasanaethau Ieuenctid Torfaen gyhoeddi cyfres o fideos yn arddangos eu gwaith fel rhan o Wythnos Gwaith Ieuenctid yr wythnos yma. 

Dywedodd David Williams, Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen: "Mae’n anrhydedd gweithio ochr yn ochr â thîm mor anhygoel o weithwyr ieuenctid sydd mor ymroddedig, yn gweithio’n ddiflino ac yn ymrwymo i gynnig y gwasanaeth gorau posibl. 

"Yn bwysicaf oll, serch hynny, mae’r gydnabyddiaeth yma i’r bobl ifanc sy’n ein hysbrydoli, yn ein herio, yn gwneud i ni chwerthin a chrio ac yn gadael i ni fyw eu bywydau gyda nhw, diolch, rydych chi’n wych!”.

Mae gwasanaeth ieuenctid Cyngor Torfaen yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed, gan gynnig mynediad agored a darpariaeth benodol.

Mae dros 2000 o bobl ifanc cael gwasanaethau yn ystod y 12 mis diwethaf, gyda nifer yn mynd ymlaen i ddatblygu eu hyder a’u huchelgeisiau, cael cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, rhoi tro ar brofiadau newydd a gwneud ffrindiau oes.

Un o’r bobl hynny yw Gabbie Jolliffe o Gwmbrân, a ddefnyddiodd y gwasanaethau ieuenctid gyntaf fel person ifanc, pan oedd hi’n cwblhau hyfforddiant gweinyddol gyda nhw. 

Ers hynny, mae hi wedi cwblhau rhaglen brentisiaeth Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen ac mae’n cael ei chyflogi nawr fel gweithiwr cymorth ieuenctid.

“Mae bod gyda’r gwasanaeth ieuenctid wedi fy helpu cymaint, a nawr rwy’n gallu rhoi yn ôl," dywedodd.

"Rwy’n caru pob dim am y gwasanaeth ac mae e wedi newid fy mywyd trwy roi cyfeiriad i fi a grŵp anhygoel o bobl i weithio â nhw.  Rydw i wrth fy modd â’r bobl ifanc rwy’n cefnogi a ‘fedra’ i ddim aros i dyfu a dysgu mwy a mwy.”

Mae’r Nod Ansawdd lefel Aur yn cael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru trwy Gyngor y Gweithlu Addysg ac mae’n edrych ar wella safonau yn y ddarpariaeth, arfer a pherfformiad.

Mewn adroddiad, dywedodd yr arolygwyr eu bod yn “edmygu diwylliant cadarnhaol y gwasanaeth yn fawr iawn, rhoddodd yr ymweliadau deimlad o amgylchedd cynnes, cefnogol i dimau’r staff a’r bobl ifanc. Mae yna ddiwylliant o ddiogelwch, angerdd a gofal gyda llwybrau eglur o atebolrwydd" 

Mae’r clod yn dilyn adroddiad diweddar gan Estyn, a roddodd gymeradwyaeth i’r gwasanaeth am ddiwallu anghenion pobl ifanc yn eu cymunedau ac am helpu i godi eu cyrhaeddiad addysgol.

Mae’r Nod Ansawdd Aur yn para tair blynedd.

I wybod mwy am Wasanaeth Ieuenctid Torfaen, gallwch wylio’r fideos yma, neu, dilynwch @torfaenyouth yn y cyfryngau cymdeithasol. 

Diwygiwyd Diwethaf: 23/06/2022 Nôl i’r Brig