Chwarae plant yw cael sgiliau newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 17 Ionawr 2022
Mya Clare, Torfaen Play Service volunteer

Mae dysgu sgiliau newydd a chael profiad gwaith gwerthfawr yn chwarae plant, diolch i Wasanaeth Chwarae Torfaen.

Mae gan y tîm nifer o gyfleoedd gwirfoddoli i helpu i redeg amrywiaeth eang o sesiynau chwarae a gweithgareddau drwy gydol yr haf, a all helpu i gefnogi ceisiadau i goleg neu brifysgol, ynghyd a chael swydd.  

Gwirfoddolodd Mya Clare, 17, o Abersychan, gyda Gwasanaeth Chwarae Torfaen yr haf diwethaf, a dywedodd ei fod wedi ei helpu i sicrhau lle ar ei gradd gwaith cymdeithasol.

Meddai Mya: "I ddechrau, roeddwn eisiau cymryd y rôl yma fel gwirfoddolwr i helpu gyda’r oriau ar gyfer fy nghais i’r brifysgol, ond cefais fy mod wir yn mwynhau’r sesiynau, yn enwedig gan fy mod yn gweithio un i un yn cefnogi plentyn ag anghenion ychwanegol. 

"Drwy gydol fy amser yn gwirfoddoli, rwyf wedi canfod sut mae chwarae yn rhan hollbwysig o ddatblygiad, ac rwyf wedi gallu gwella fy ngwaith tîm a sgiliau cyfathrebu.

"Rwyf hefyd wedi meithrin hyder yn gweithio gyda phlant ag anableddau ac wedi dechrau deall mewn gwirionedd natur Awtistiaeth a sut y gall effeithio plant pan maent yn chwarae."

Mae’r gwasanaeth nawr yn recriwtio gwirfoddolwyr i helpu i gyflwyno cynlluniau chwarae ledled Torfaen rhwng 1af Awst a 25ain Awst. 

Mae cyfle hefyd i ddod yn ‘gyfaill chwarae’ – cefnogi plant ag anghenion ychwanegol.

Mae pob gwirfoddolwr yn derbyn cymhwyster achrededig mewn gwaith chwarae a diogelu, ynghyd â chyfle i gwblhau cymwysterau cymorth cyntaf a hylendid bwyd.

Gall y lleoliadau gefnogi myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer Bagloriaeth Cymru, neu rai sy’n ceisio am gyrsiau coleg neu brifysgol, ynghyd a rhoi profiad gwaith a geirda ar gyfer ceisio am swyddi yn y dyfodol.

Ychwanegodd Mya: "Rwy’n symud ymlaen i gychwyn gradd gwaith cymdeithasol er mwyn gwireddu fy mreuddwyd o fod yn weithiwr cymdeithasol ar gyfer Gofalwyr Ifanc a phlant ag anableddau. Yn fy marn i, mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn lle gwych i wirfoddoli ac mae’r staff yn groesawgar iawn, a bob amser yno i helpu os ydych angen hynny."

Fel gwirfoddolwr haf gyda Chwarae Torfaen, pa gymorth arall fyddaf yn ei dderbyn?

  • Bydd holl wirfoddolwyr yn derbyn gwahoddiad i Seremoni Gwobrau Gwirfoddolwyr Blynyddol lle byddwn yn dathlu eu llwyddiant
  • Treuliau dyddiol ar gyfer bwyd a theithio
  • Ymgynghorir gyda gwirfoddolwyr yn rheolaidd, er mwyn clywed eu barn a gweithredu ar eu sylwadau i lunio dyfodol y Gwasanaeth Chwarae.

Meddai Aelod Gweithredol Torfaen ar gyfer Plant, Teuluoedd a Chymunedau, y Cynghorydd Fiona Cross: "Mae gwirfoddoli yn gyfle gwych i bobl o bob oedran ddatblygu sgiliau a phrofiadau newydd ac mae’n caniatáu i chi roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Mae prosiect gwirfoddoli Chwarae Torfaen yn gyfle gwych, ac mae hefyd yn hyrwyddo hawl pob plentyn i chwarae’n rhydd ac yn ddiogel yn eu cymuned."

Mae gennyf ddiddordeb mewn gwirfoddoli: sut ydw i’n cofrestru? 

Mae gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn agored i bob oedran a gallwch , chwiliwch am 'Wirfoddolwyr Gwasanaeth Chwarae'

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30ain Ebrill 2022.

Mae gofyn i gyfranogwyr fynychu cyfweliad anffurfiol a chael archwiliad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). I gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli, ebostiwch Andrea yn andrea.sysum@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 26/04/2023 Nôl i’r Brig