Siop Ailddefnyddio'n Ailagor

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 4 Ionawr 2022

Mae siop sy’n gwerthu eitemau diangen o ansawdd da wedi ailagor wrth ymyl Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Mae Siop Ailddefnydd Steelhouse, a agorodd dros y Nadolig, yn gwerthu amrywiaeth o stoc i’w ailgylchu ond a ystyrir yn bethau sy’n ddigon da i’w hailddefnyddio, gan gynnwys celfi, offer chwarae a theganau.  

Gall aelodau’r cyhoedd roi eitemau i’r siop ei hun ar Panteg Way, Y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl. 

Mae’r siop, sydd wedi bod ar gau er dros flwyddyn, yn cael ei redeg gan yr elusen, Wastesavers, mewn partneriaeth â Chyngor Torfaen a FCC Environment, y cwmni sy’n rhedeg y ganolfan ailgylchu.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, aelod gweithredol Cyngor Torfaen dros yr amgylchedd: “Rwy’n falch iawn bod y siop ar agor unwaith eto, ac rwy’n gobeithio y bydd trigolion yn rhoi eitemau o ansawdd da yr oedden nhw’n meddwl am eu hailgylchu neu eu taflu.

"Trwy roi eitemau i’r Siop Ailddefnydd, bydd trigolion yn helpu elusen leol ac yn lleihau faint o wastraff sy’n cael ei daflu.  Mae pethau ar werth am bris rhesymol fel galwch heibio heddiw i gael bargen.

"Mae ailddefnyddio eitemau hefyd yn ddewis amgen o gymharu â dulliau eraill o reoli gwastraff, sy’n cynhyrchu nwyon tŷ gwydr, felly bydd yn ein helpu i gyrraedd ein nod yn

Nhorfaen o fod yn sero carbon net erbyn 2050." 

Dywedodd Alun Harries, Rheolwr Elusennol yn Wastesavers, yng Nghasnewydd: “Mae ein mannau manwerthu yn chwarae rhan fawr wrth gefnogi ein cymuned, felly mae’r cyfle i agor siop newydd bob amser yn gyffrous, yn arbennig pan fo hynny rhywfaint yn wahanol.

"Mae nifer yr eitemau da y mae modd eu hailddefnyddio neu eu gwerthu yn anhygoel, felly mae lleoliad y siop newydd yn cynnig cyfle ardderchog i roi stoc ar y silffoedd gyda phob math o eitemau sydd nawr yn gallu cael cartref newydd a chodi arian ar yr un pryd.”

Dywedodd Cyfarwyddwr FCC Environment, Steve Longdon: “Fel busnes, rydym yn gweithio’n galed i ailgylchu cymaint â phosibl o’r gwastraff sy’n dod i’n safleoedd ailgylchu. Ond rydym wedi bod yn ymwybodol ers tro bod gan nifer o’r eitemau fywyd defnyddiol o’u blaen ac mae agor y siop yn ar ôl cynhadledd COP26 yn amseru gwych.

"Rydym yn gwybod bod trigolion yn awyddus i chwarae eu rhan felly mae’r amser yn iawn i ddod ag arbenigwyr manwerthu i mewn er mwyn gweld y trysor sy’n llechu yn y sbwriel a rhoi bywyd newydd i bethau.”

Bydd y siop yn Uned 8, South Pontypool Industrial Estate, New Inn, NP4 0LS, ar agor 9am tan 4.30pm, Dydd Llun i ddydd Sul ac mae parcio ar gael. 

Am wybodaeth am Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, ewch i'n gwefan.

Diwygiwyd Diwethaf: 04/02/2022 Nôl i’r Brig