Y clwb golff hynaf yng Nghymru, a sefydlwyd ym 1875. Mae wedi’i leoli i’r gogledd orllewin o ganol tref Cwmbrân, ac mae’r maes yn mesur 5278 llath (par 68). Mae yma dŷ clwb newydd sbon sy’n cynnig bwyd da, bar trwyddedig a chroeso cynnes i ymwelwyr. Ffoniwch Gavin Evans, gweithiwr proffesiynol y clwb, i drefnu amser cychwyn.