Mae Neuadd y Gweithwyr yn enghraifft dda o bensaernïaeth ddiwydiannol Cymru, ac fe dalwyd am yr adeilad gan y glöwyr eu hunain. Yn wreiddiol roedd y neuadd yn cynnwys llyfrgell, ac ystafelloedd darllen a chymdeithasu. Nawr mae’n ganolbwynt calendr adloniant a chymdeithasol y gymuned gyda digwyddiadau, sinema, bar ac ystafell snwcer.