Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon

  • Lleoliad:Blaenafon

Agored ar benwythnosau a Gwyliau Banc, Ebrill i fis Medi, bob dydd Mercher yn ystod Hanner Tymor yr Haf a phrif wyliau hefyd, cynhelir digwyddiad Calan Gaeaf ym mis Hydref a Theithiau Arbennig i weld Siôn Corn ym mis Rhagfyr.

Mae Rheilffordd Dreftadaeth Blaenafon yng nghanol Safle Treftadaeth y Byd ar gyrion Bannau Brycheiniog. Mae digon o le i barcio am ddim a maes parcio coetsys yn Furnace Sidings, ger Llynnoedd Garn, ein prif Orsaf. O’r fan hon mae’r trenau yn mynd i’r gogledd i’r Whistle Inn, i’r de i Orsaf Lefel Uchel Blaenafon (sydd yn agos i ganol tref Blaenafon ar droed) ynghyd ag i Arhosfa’r Pwll Mawr, sydd ger Amgueddfa Lofaol y Pwll Mawr.

Boed yn chwilio am ddiwrnod allan i’r teulu neu os oes gennych ddiddordeb mewn rheilffyrdd, mae gennym rywbeth i chi. Gyda lle parcio am ddim ger Furnace Sidings, pam na gyfunwch ymweliad â’r Pwll Mawr gyda reid ar y trên, gan ddefnyddio’r arosfa newydd yn y Pwll Mawr.

Medrwch fwynhau tamaid i’w fwyta yn yr ystafell de yn Furnace Sidings neu siopa yn Eric’s Emporium, sy’n gysylltiedig â’r Railway Shop ym Mlaenafon lle mae stoc o fodelau rheilffordd, rhoddion a swfenîrs.

  • Mynedfa i’r Anabl:Na
  • Addas i Ymweliadau Addysgol:Na
  • Addas i Grwpiau:Na
  • Addas i Deuluoedd:Na
Manylion Cyswllt
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018 Nôl i’r Brig