Wedi'i lleoli yn Neuadd y Gweithwyr ysblennydd a'i rhedeg gan dîm o wirfoddolwyr cyfeillgar, mae Amgueddfa Gymunedol Blaenafon yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol arobryn Blaenafon a meysydd glo de Cymru..
Mae’r amgueddfa yn arddangos amrywiaeth o arddangosfeydd sy’n helpu i egluro cymdeithas Blaenafon yn y 19eg a’r 20fed ganrif.
Ymhlith yr arddangosfeydd mae arteffactau'n ymwneud â:
- Adloniant, Chwaraeon a Hamdden
- Eglwysi a Chapeli
- Corau a Cherddoriaeth
- Undebau Llafur
- Cymdeithasau Cyfeillgar
- Siopau a Busnesau
- Arwyr Lleol y Rhyfeloedd
- Ysgolion Lleol
Mae'r amgueddfa hefyd yn ymfalchïo mewn casgliad yn ymwneud â'r teulu Kennard, a wasanaethodd fel Cyfarwyddwyr Cwmni Haearn a Glo Blaenafon yn ystod y 19eg ganrif. Roedd aelodau o'r teulu yn ffigyrau dylanwadol yn niwydiannau haearn Prydain Fawr a chyfandir Ewrop.
Hefyd yn cael eu harddangos, mae effeithiau personol y nofelydd enwog Alexander Cordell (1914-1997), awdur y llyfr enwog Rape of the Fair Country (1959).
Mae gan yr amgueddfa archifau hanes teulu a hanes lleol helaeth. Gellir trefnu ymchwil yn gyfnewid am rodd. Mae'r gwirfoddolwyr hefyd yn cynnal sesiynau hanes teulu wythnosol AM DDIM ar y cyd â Chanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon a'r Llyfrgell (dydd Iau, 10 am-1pm).
Gellir trefnu oriau agor y tu allan i oriau agor arferol, os yw'r gwirfoddolwyr ar gael.