Amgueddfa o’r radd flaenaf, sydd wedi ennill gwobrau, lle gall ymwelwyr brofi sut roedd bywyd i genedlaethau o löwyr a oedd yn peryglu bywyd ac iechyd i gael y mwynau gwerthfawr allan, a oedd yn danwydd i’r Chwyldro Diwydiannol. Ewch ar daith danddaear gyda chyn-löwr, gwyliwch yr efelychiad aml-gyfrwng yn yr orielau mwyngloddio, ac ewch i’r baddonau hanesyddol ar frig y pwll i weld sut beth oedd bywyd i filoedd o löwyr Cymru a’u teuluoedd. Mynediad am ddim.