Wedi'i lleoli mewn dros saith a hanner erw o erddi, mae'r Gwesty Cymraeg preifat hwn yng Nghwmbrân yn lleoliad delfrydol ar gyfer busnes a phleser. Mae ganddo 70 o ystafelloedd ag en-suite, Clwb Hamdden a Sba Preifat i Aelodau, Bwyty sy’n enwog am ei gerfdy 3 cwrs, Ystafelloedd Digwyddiadau ar gyfer Dathliadau, Priodasau a Dawns-giniawau.
Wedi ei haddurno’n hyfryd, mae gan bob ystafell welyau mwy nag arfer, carpedi plwsh ac ystafelloedd ymolchi en-suite marmor. Mae gan bob ystafell deledu, sêff, adnoddau i wneud te a choffi, pethau ymolchi moethus a gwisgoedd bath gwlanog, a WIFI cyflym (30MB) a lle parcio rhad ac am ddim drwy gydol eich arhosiad.