Archifau Gwent
Archifau Gwent yw’r archif swyddogol ar gyfer y pum awdurdod lleol yn ardal Gwent. Maent hefyd yn cael eu cydnabod gan yr Archifau Cenedlaethol fel lle i gadw cofnodion cyhoeddus, a gan yr Eglwys yng Nghymru i gadw cofnodion plwyfol.
Yn Archifau Gwent, mae miliynau o ddogfennau ar gael sydd yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif hyd heddiw. Pa bynnag bwnc, person neu le sydd o ddiddordeb i chi, gallwn eich helpu i ddarganfod gwybodaeth enfawr o’r dogfennau hyn.
Ni chodir tâl ar y sawl sydd am ymweld ag ef i gwblhau ymchwil personol. Mae yno hefyd staff profiadol yno a all helpu i’ch cyfeirio yn y cyfeiriad cywir.
Cynhelir darlithoedd, gweithdai a sesiynau yn rheolaidd ar gyfer defnyddwyr newydd a gellir trefnu ymweliadau ar gyfer grwpiau.
Mae gwasanaeth chwilio ar gael am dâl i’r rheiny sydd yn methu ymweld â ni.
I gael gwybodaeth bellach, ewch i www.gwentarchives.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 04/08/2022
Nôl i’r Brig