Cynllun Lesio Cymru
Mae Cynllunio Lesio Cymru Llywodraeth Cymru yn ceisio cynyddu nifer y cartref fforddiadwy, diogel i denantiaid preifat.
Gall landlordiaid drefnu i osod llety preswyl ar brydles i’w hawdurdod lleol trwy’r cynllun am gyfnod rhwng pump ac 20 mlynedd.
Byddan nhw’n derbyn nifer o fuddion, gan gynnwys rhent wedi ei warantu, grantiau o hyd at £5,000 i ddod ag eiddo at safon a gytunir, a bydd y Cyngor yn wneud atgyweiriadau cyffredinol a gwaith cynnal a chadw. Mae arian grant ychwanegol gwerth hyd at £25,000 ar gael ar gyfer eiddo gwag ar sail telerau ac amodau.
Bydd angen i eiddo gyrraedd safonau penodol i fod yn gymwys am y cynllun a gall ein tîm tai roi mwy o wybodaeth.
Am ragor o wybodaeth, gall landlordiaid gysylltu â’r adran Tai trwy HousingEnabling@torfaen.gov.uk neu 01495 742629.
Bydd rhenti yn cael eu talu yn ôl y gyfradd Lwfans Tai Lleol perthnasol. Yn 2025/26, y cyfraddau misol yn Nhorfaen yw:
Local Housing Allowance Rates
| Property Size | Local Housing Allowance | 
|---|
| 1 bed | £500.01 | 
| 2 bed | £564.88 | 
| 3 bed | £650 | 
| 4 bed | £749.99 | 
Gall cyfraddau Lwfans Tai lleol newid yn flynyddol.
Yr hyn gallwch ei ddisgwyl gennym ni
- Byddwn yn canfod tenantiaid posibl
- Bydd yn ymgymryd y rheolaeth dydd i ddydd eich eiddo
- Byddwn yn talu rhent yn uniongyrchol at y landlord yn ystod unrhyw gyfnodau y bydd yr eiddo’n wag
- Byddwn yn archwilio tai’n rheolaidd, yn monitro gweithgaredd tenantiaid, ac yn ymdrin yn brydlon ag unrhyw broblemau, os bydd rhai
- Byddwn yn cynnal eich eiddo trwy gydol cyfnod y brydles (nid unrhyw waith strwythurol)
- Byddwn yn cwblhau rhestr eitemau ac, ar ddiwedd cyfnod y brydles – gan ystyried unrhyw draul arferol – bydd yr eiddo’n cael ei ddychwelyd yn yr un cyflwr
- Byddwch yn derbyn gohebiaeth reolaidd ynglŷn â’ch eiddo
- Byddwn yn gyfrifol am unrhyw filiau/cyfleustodau os bydd yr eiddo’n wag
Diwygiwyd Diwethaf: 15/07/2025 
 Nôl i’r Brig