Ystafelloedd/tenantiaethau

Sut i wneud cais am denantiaeth barhaol yn Nhŷ Glas y Dorlan
Mae yn Nhŷ Glas y Dorlan 6 fflat sydd ar gael i denantiaid parhaol ar lawr uchaf yr adeilad.
Mae 4 fflat ag un ystafell wely a 2 fflat â dwy ystafell wely gydag ystafell fyw cynllun agored, ystafell fwyta, ystafell wlyb ac ystafell ymolchi.
Tai Bron Afon fydd y landlord, ond mae gan dimau Gofal Cymdeithasol a Thai Cyngor Torfaen hawliau enwebu llawn o ran y tenantiaethau.
Mae hyn yn golygu y bydd y fflatiau'n cael eu dyrannu gan banel asesu, yn hytrach na ar sail y cyntaf i'r felin.
Bydd y fflatiau'n cael eu dyrannu ar sail anghenion gofal a chymorth unigolyn nawr neu yn y dyfodol.
Bydd manylion rhenti wythnosol a thaliadau gwasanaeth yn cael eu postio cyn gynted ag y byddant ar gael.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn denant yn Nhŷ Glas y Dorlan, cysylltwch â ni drwy ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid ar 01495 762200 gan ofyn am sgwrs ynglŷn ag asesiad ar gyfer Tŷ Glas y Dorlan.
Diwygiwyd Diwethaf: 28/02/2025
Nôl i’r Brig