Canolfan Llythrennedd ac Adnoddau i Ysgolion

Mae'r Ganolfan Llythrennedd ac Adnoddau i Ysgolion yn darparu gwasanaeth benthyca a chynghori ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, meithrinfeydd, swyddogion gwella ysgolion a thiwtoriaid cartref yn Sir Fynwy a Thorfaen.

Gall unigolion fenthyca hyd at 60 o lyfrau, ynghyd â sachau stori, DVDs, llyfrau llafar, pecynnau lluniau a llyfrau print bras i gefnogi'r cwricwlwm. Mae ysgolion a meithrinfeydd yn cael casgliad o lyfrau ffuglen ar gyfer darllen yn y cartref a'r ysgol i'w rhoi yn yr ystafell ddosbarth neu eu cadw'n ganolog yn llyfrgell yr ysgol. Maent hefyd yn cael amrywiaeth o gasgliadau arteffactau.

Gall ymgynghorydd â chymhwyster proffesiynol ymweld ag ysgolion i helpu i osod, ad-drefnu a hyrwyddo llyfrgell yr ysgol. Gall hyfforddiant mewn sgiliau gwybodaeth, datblygu darllenwyr a gwella llythrennedd gael ei drefnu naill ai ar gyfer cyfarfod staff cyffredinol neu fel rhan o ddiwrnod hyfforddiant ysgol.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Canolfan Llythrennedd ac Adnoddau i Ysgolion

Ffôn: 01633 644565 / 644562

E-bost: angelanoble@monmouthshire.gov.uk

Nôl i’r Brig