Trwydded Gwarchodwr
Rheoleiddir dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933/63 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.
Mae'n ofyniad cyfreithiol bod Gwarchodwr a gymeradwywyd gan y cyngor yn goruchwylio plant sy'n cymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus, sy’n cynnwys gweithio mewn gweithgareddau teledu, ffilm, modelu cyflogedig neu chwaraeon, o dan drwydded a roddwyd gan yr awdurdod lleol, oni bai eu bod yng ngofal ei riant, gwarcheidwad cyfreithiol neu, mewn rhai amgylchiadau, eu hathro.
Dyletswydd y Gwarchodwr yn y lle cyntaf, yw’r plentyn y maen nhw'n gofalu amdano. Maent yn gyfrifol am ddiogelu, cefnogi a hyrwyddo lles y plentyn, ac ni ddylent gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd a fyddai'n amharu ar eu dyletswyddau.
Rhaid i gwarchodwyr aros gyda'r plentyn bob amser, a sicrhau eu bod bob amser yn gweld y plentyn pan fyddant ar y llwyfan neu'n perfformio. Bydd union ddyletswyddau'r gwarchodwr tra bod y plentyn yn y lle perfformio neu'r gweithgaredd yn amrywio yn ôl y math o berfformiad neu weithgaredd. Fodd bynnag, eu prif ddyletswyddau yw sicrhau bod y plentyn / plant yn cael eu goruchwylio'n gywir pan nad ydynt yn perfformio a'u bod yn derbyn prydau, cyfleoedd i orffwys a chyfleoedd hamdden sy'n ddigonol. Rhaid i warchodwr hefyd sicrhau bod cyfleusterau newid addas yn cael eu trefnu gan y cwmni neu leoliad, gydag ystafelloedd newid ar wahân i fechgyn a merched dros bump oed.
Gall gwarchodwr oruchwylio hyd at 12 o blant. Fodd bynnag, oherwydd gofynion y perfformiad, oed, rhyw neu anghenion arbennig y plant, gall yr awdurdod lleol ganiatáu i'r gwarchodwr fod yn gyfrifol am lai o blant er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu'n briodol.
Mae’r broses gofrestru i fod yn warchodwr yn Nhorfaen yn cynnwys y canlynol:
- Llenwi ffurflen gais
- Llun maint pasbort
- Cyfweliad
- Cymeradwyaeth foddhaol gan ddau ganolwr
- Tystysgrif Datgeliad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS/CRB)
- Mynychu cwrs gorfodol a drefnir gan Dorfaen ar gyfer Hyfforddi Gwarchodwyr
- Talu’r ffioedd perthnasol
Y Broses Ymgeisio
Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded, lawr lwythwch y Ffurflen Gais ar gyfer Gwarchodwyr.
Dogfennau Rheoliadau a Chyfarwyddyd
Mae gwybodaeth bellach ar gael yn y dogfennau Rheoliadau a Chyfarwyddyd a ganlyn:
Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar wefan Rhwydwaith Cenedlaethol Cyflogi Plant ac Adloniant.
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â’r Gwasanaeth Lles Addysg ar EWS@torfaen.gov.uk.
Diwygiwyd Diwethaf: 22/11/2023
Nôl i’r Brig