Gwrthderfysgaeth

Counter Terrorism

Mae Cyngor Torfaen yn cefnogi Heddlu Gwent ar ymgyrch genedlaethol o'r enw ACT (Gweithredu i Drechu Terfysgaeth) i rybuddio, hysbysu a rhoi sicrwydd i'r cyhoedd.

Y negeseuon allweddol gan Heddlu Gwent yw bod Gweithredu yn Trechu Terfysgaeth a Chymunedau'n Trechu Terfysgaeth.

Gweler yr wybodaeth gan Heddlu Gwent isod ac ewch i www.gov.uk/ACT am ragor o wybodaeth a chyngor.

Terfysgaeth yn y DU

Mae'r bygythiad o derfysgaeth yn wirioneddol a difrifol. Rydym wedi gweld y gall terfysgwyr daro ar unrhyw adeg ac unrhyw le heb rybudd. Mae gan Heddlu Gwent rôl allweddol wrth warchod y DU, ond mae cymunedau yn trechu terfysgaeth ac mae arnom angen help a chymorth gennych chi a'ch cymuned. Dysgwch fwy am yr hyn rydym yn ei wneud i gadw Gwent yn ddiogel, sut i weld gweithgaredd terfysgol posibl a sut i roi gwybod am unrhyw beth amheus yr ydych wedi'i weld neu ei glywed.

ACT: Gweithredu i Drechu Terfydgaeth

Os ydych chi wedi gweld neu wedi clywed rhywbeth a allai awgrymu bygythiad terfysgol i'r DU, hyd yn oed os yw'n ymddangos yn fach neu ddim yn werth sôn amdano, dilynwch eich greddf a GWEITHREDWCH drwy roi gwybod amdano.

Gallai unrhyw ddarn o wybodaeth fod yn bwysig, waeth pa mor fach neu ddibwys y gallai ymddangos, mae'n well bod yn ddiogel a sôn amdano.

Gallwch chi ein helpu i atal terfysgaeth ac achub bywydau. Hyd yn oed os nad ydych chi'n siŵr, rhowch wybod i ni felly gall ein swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig ymchwilio iddo, ni fydd unrhyw alwad na chlic yn cael eu hanwybyddu.

Sut ydw i'n adrodd am weithgarwch terfysgol posibl?

Mae yna wahanol ffyrdd y gallwch chi ddweud wrthym am weithgaredd terfysgol posibl naill ai yn y DU, neu a allai effeithio ar y DU.

Rhowch wybod ar-lein yn www.gov.uk/ACT gan ddefnyddio ein hofferyn ar-lein sy'n gyflym a chyfrinachol, neu ffoniwch y Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth gyfrinachol ar 0800 789 321. Rydym yn monitro'r gwasanaeth hwn 24 awr y dydd.

Os yw'n argyfwng ac rydych chi'n amau bod perygl ar unwaith yna ffoniwch 999.

Sut ydw i’n rhoi gwybod am gynnwys terfydgaeth neu eithafo ar-lein?

Os ydych chi wedi dod ar draws gwefan neu gynnwys ar-lein (gan gynnwys negeseuon e-bost, fforymau neu gyfryngau cymdeithasol) rydych chi'n teimlo eu bod o natur derfysgol tresigar neu eithafol, rhowch wybod amdano gan ddefnyddio offeryn ar-lein cyflym a dienw Llywodraeth y DU - adroddwch ar ddeunydd ar-lein sy'n hyrwyddo terfysgaeth neu eithafiaeth

Bydd swyddogion arbenigol yn asesu eich gwybodaeth a, lle bo'n briodol, ymchwilio'r wefan a gweithio gyda phartneriaid i'w dynnu oddi yno.

Wrth gwrs, os ydych yn amau perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 nawr.

Gall unrhyw un ddod i wybod fy mod wedi cysylltu â’r Heddlu?

Ddim os nad ydych chi am iddyn nhw. Rydym yn trin yr holl wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn gwbl gyfrinachol. Os oes angen i chi gysylltu â ni am unrhyw reswm, mi fyddwn yn hynod o gyfrinachol.

A fedraf gadw’n ddienw?

Rydym yn gofyn i bawb sy'n darparu gwybodaeth hefyd i roi eu henw a'u manylion cyswllt ond dyma'ch penderfyniad chi. Drwy ddarparu'ch manylion cyswllt, bydd hyn yn ein helpu i wirio dilysrwydd y wybodaeth a'ch cefnogi chi cyn gynted â phosib os bydd angen.

Os yw’n well gennych rhoi’r wybodaeth yn ddienw, ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555 111.

Beth os yw’r wybodaeth y byddaf yn ei rhoi yn anghywir?

Mae hynny'n iawn. Os oes gennych bryder gwirioneddol am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed, byddai'n well gennym petai chi'n dweud wrthym na'i gadw i chi'ch hun. Fel hyn, gall ein swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig ymchwilio i'r mater. Os daw dim ohono yn y pen draw, mae hynny'n newyddion da.

A fedraf siarad ag unrhyw arall heblaw am yr Heddlu?

Wrth gwrs. Gallwch siarad â'r sefydliadau isod yn llawn hyder. Gallant drosglwyddo eich gwybodaeth atom a chadw'ch anhysbysrwydd.

Arwydd o weithgarwch terfysgaeth posibl

Fel troseddwyr eraill, mae angen i derfysgwyr gynllunio a pharatoi, prynu a storio deunyddiau, a dod o hyd i ffyrdd i ariannu eu gweithgareddau. Mae llawer o hyn yn cael ei wneud yn yr agored o flaen y cyhoedd.

Os ydych chi'n gweld neu'n clywed rhywbeth anarferol neu amheus dilynwch eich greddf a GWEITHREDU trwy rhoi gwybod yn gyfrinachol ar www.gov.uk/ACT. Gallai unrhyw ddarn o wybodaeth fod yn bwysig, mae'n well bod yn ddiogel a dweud. Gallwch chi helpu'r heddlu i atal terfysgaeth ac achub bywydau.

Gallwch chi helpu trwy wybod arwyddion ac ymddygiadau terfysgwyr a bod yn wyliadwrus o'u gweithgareddau, ar-lein ac yn eich cymuned, ee:

  • Storfeydd: Gall terfysgwyr ddefnyddio adeiladau dan glo, garejis a siediau i storio offer. A ydych yn amheus o rywun sy’n rhentu eiddo masnachol?
  • Cemegau: Ydych chi wedi sylwi ar rywun sy'n prynu symiau mawr neu anarferol o gemegau heb reswm amlwg?
  • Offer amddiffyn: Mae trafod cemegau yn beryglus. Ydych chi wedi gweld goglau neu fasgiau wedi eu gadael yn rhywle?
  • Cyllid: Mae twyll sieciau a chardiau credyd yn ffordd o gynhyrchu arian parod. Ydych chi wedi sylwi ar unrhyw drafodion amheus?
  • Sawl hunaniaeth: Ydych chi'n adnabod rhywun â dogfennau mewn enwau gwahanol am reswm amlwg?
  • Gwylio: Mae arsylwi a gwylio yn helpu terfysgwyr i gynllunio ymosodiadau. Ydych chi wedi gweld unrhyw un sy'n cymryd lluniau o drefniadau diogelwch?
  • Cludiant: Os ydych chi'n gweithio yn y maes hurio neu werthu cerbydau masnachol, a oes unrhyw beth anghyffredin wedi codi o ran cais i brynu neu rentu cerbyd?
  • Teithio: Gall cyfarfodydd, hyfforddiant a chynllunio digwydd yn unrhyw le. Ydych chi'n adnabod rhywun sy'n teithio ond sy'n amwys iawn o ran ble maent yn mynd?
  • Cyfathrebu: Mae ffonau symudol dienw, talu wrth ddefnyddio a dwyn ffonau symudol yn nodweddiadol. Ydych chi wedi gweld rhywun sydd â nifer o ffonau symudol heb reswm amlwg?
  • Cyfrifiaduron: Ydych chi'n adnabod rhywun sy'n ymweld â gwefannau sy'n gysylltiedig â therfysgaeth neu'n rhannu cynnwys sy'n hyrwyddo neu'n gogoneddu terfysgaeth? Darllenwch fwy am derfysgaeth ar-lein isod.

Os yw unrhyw un o'r uchod yn wir, dilynwch eich greddf, GWEITHREDWCH a rhoi gwybod amdano. Bydd ein swyddogion a hyfforddwyd yn arbennig yn cymryd yr awenau o'r man hwnnw.

Beth yw arwyddion gweithgarwch terfysgaeth posibl ar lein?

Mae rhai pobl yn defnyddio'r rhyngrwyd i hyrwyddo, gogoneddu neu helpu i gyflawni gweithredoedd o derfysgaeth ac eithafiaeth dreisgar. Gallwch chi helpu trwy fod yn wyliadwrus am ymddygiad a chynnwys, fel:

  • areithiau neu draethodau'n galw am drais hiliol neu grefyddol
  • fideos o drais gyda negeseuon yn canmol terfysgwyr
  • postio negeseuon sy’n annog pobl i gyflawni gweithredoedd o derfysgaeth neu eithafiaeth dreisgar
  • negeseuon a fwriedir i greu cynnwrf ac ennyn casineb yn erbyn unrhyw grŵp crefyddol neu ethnig
  • cyfarwyddiadau ynghylch sut i wneud bomiau

Os ydych chi'n amau bod rhywfaint o ymddygiad neu gynnwys ar-lein yn awgrymu terfysgaeth neu'n eithafol ei natur, fe allwch wneud gwahaniaeth go iawn. GWEITHREDWCH ar eich pryderon a rhoi gwybod gan ddefnyddio offeryn ar-lein syml a dienw Llywodraeth y DU - adroddwch ar ddeunydd ar-lein sy'n hyrwyddo terfysgaeth neu eithafiaeth.

Cadw’n ddiogel rhag terfysgaeth

Mae'r bygythiad o derfysgaeth yn y DU yn wirioneddol, ond gyda ychydig o wybodaeth gallwch gynyddu eich diogelwch a helpu i amddiffyn eich hun rhag ymosodiad terfysgol. Darganfyddwch isod sut i gadw'n ddiogel pan fyddwch chi allan, yma ac acw, a sut i roi gwybod am unrhyw ymddygiad amheus a allai fod yn gysylltiedig â therfysgaeth.

Beth allaf ei wneud fel rhywun sy’n gweithio yn Nhorfaen?

Mae Cymunedau yn trechu terfysgaeth. Mae arnom angen cymorth a chefnogaeth unigolion, busnesau a chymunedau ledled Gwent i gadw'n effro a sicrhau diogelwch y mannau hynny yr ydym yn byw, gweithio ac yn cymdeithasu ynddynt. Os byddwch yn gweld neu'n clywed rhywbeth anarferol neu amheus dilynwch eich greddf a GWEITHREDWCH trwy roi gwybod yn gyfrinachol ar www.gov.uk/ACT  Gallai unrhyw ddarn o wybodaeth fod yn bwysig, mae'n well bod yn ddiogel a dweud. Gallwch chi helpu'r heddlu i atal terfysgaeth ac achub bywydau.

Mae mannau prysur, digwyddiadau, trafnidiaeth gyhoeddus a lleoliadau eiconig yn rhai enghreifftiau o leoliadau yng Ngwent a allai fod yn dargedau posibl i derfysgwyr.

Rydych chi'n gyfarwydd â'ch gweithle a'r ardal gyfagos, felly rydych mewn sefyllfa ddelfrydol i weld pan fydd rhywbeth o'i le. Yn ystod y cyfnod hwn o rybudd uwch, mae'n hollbwysig i gadw'n wyliadwrus, dilyn eich greddf ac adrodd unrhyw weithgarwch terfysgol posibl i'r heddlu.

Edrychwch am unrhyw beth a allai fod yn wahanol i’r arfer, fel:

  • Pobl mewn cerbydau sefydlog yn gwylio adeilad neu strwythur
  • Cerbydau'n symud yn araf ger adeiladau cyhoeddus, strwythurau neu bontydd, neu wedi eu parcio mewn amgylchiadau amheus
  • Pobl sy'n defnyddio offer recordio, yn cynnwys ffonau camera, neu eu gweld yn gwneud nodiadau neu frasluniau o fanylion diogelwch
  • Rhywun amheus yn rhoi sylw manwl i fynedfeydd ac allanfeydd, grisiau, cynteddau neu ddrysau dianc rhag tân
  • Pobl yn loetran ger adeiladau am gyfnodau hir a gwylio staff, ymwelwyr a chyflenwadau heb reswm amlwg
  • Pobl yn gofyn cwestiynau manwl neu anarferol ynghylch adeiladau a gweithrediadau busnes, cyfleusterau (megis cynllun ystafelloedd), diogelwch neu barcio heb reswm amlwg
  • Herio'r rhai mewn swyddfeydd ac ardaloedd y 'cyfyngir mynediad iddynt', ystafelloedd peiriannau a thebyg - dywedwch wrth eich rheolwr yn syth neu deialwch 999

Os ydych wedi gweld unrhyw rhai o’r uchod, dilynwch eich greddf a rhowch wybod, yn gyfrichalol, ar www.gov.uk/ACT neu ffoniwch y Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth ar 0800 789 321. Bydd ein swyddogion yn cymryd yr awenau o’r fan honno.

Ble alla i ddod o hyd i gyngor diogelwch ar gyfer fy musnes neu sefydliad?

Mae swyddogion arbenigol yn cynnal sesiynau briffio diogelwch rheolaidd ar gyfer y gymuned fusnes.

Gall Ymgynghorwyr Diogelwch Gwrthderfysgaeth nodi ac asesu safleoedd critigol yn eich cymuned a allai fod yn agored i ymosodiad terfysgol neu eithafol. Yna, maent yn dyfeisio a datblygu cynlluniau diogelwch amddiffynnol priodol i leihau'r effaith ar y safle hwnnw a'r gymuned gyfagos.

I gael gwybodaeth bellach ewch i www.gov.uk/ACT neu www.counterterrorism.police.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 12/09/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyfathrebu, Ymgysylltu ac Argyfyngau Sifil

Ffôn: 01495 742151

Nôl i’r Brig