TCC (Teledu Cylch Cyfyng)

Beth yw TCC (CCTV)?

System deledu sy'n gweithredu ar sail "dolen gaeëdig" yw Teledu Cylch Cyfyng (TCC).

Yn wahanol i deledu a ddarlledir, sydd ar gael i unrhyw un gyda derbynnydd addas, mae lluniau teledu cylch cyfyng ar gael dim ond i’r sawl sydd wedi eu cysylltu’n uniongyrchol â’r ddolen. Yn achos Torfaen, y ddolen hon yw’r ystafell fonitro ganolog.

Mae'r ddolen yn gyswllt sy'n cynnwys cebl ffibr optig sy'n cludo'r llun o'r camera i fonitor.

Mae teledu cylch cyfyng yn chwarae rhan fawr o ran gwneud Torfaen yn ddiogelach, gan helpu i ddarparu tystiolaeth lle cyflawnwyd trosedd ac, yn y pen draw, yn lleihau trosedd lle mae’r camerâu yn gweithredu.

Nod y cynllun yw:

  • Helpu i ddatgelu ac atal troseddu (including vehicular crime)
  • Darparu tystiolaeth i helpu gydag ymchwiliadau'r heddlu
  • Atal y rheiny sy'n bwriadu troseddu
  • Lleihau ofn pobl o droseddu a rhoi hyder i'r cyhoedd eu bod mewn amgylchedd diogel
  • Darparu cymunedau mwy diogel
  • Lleihau fandaliaeth
  • Helpu i atal a datgelu ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Helpu i reoli traffig

Ydy e'n Gweithio?

Mae llwyddiant TCC o ran lleihau troseddu ac anhrefn ac atal pobl rhag ofni troseddu yn yr ardaloedd lle mae camerâu'n bodoli wedi bod yn drawiadol.

O ymchwil i droseddu ac anhrefn, mae'n glir bod TCC hefyd wedi cyfrannu at leihau ofnau pobl am droseddu a chynyddu'r canfyddiad bod yr ardaloedd lle mae'r camerâu yn fwy diogel.

Cafwyd buddsoddiad sylweddol mewn teledu cylch cyfyng yn y fwrdeistref ac mae hyn wedi arwain at lawer o ddigwyddiadau a recordiwyd ac a adroddwyd.

Sawl camera sydd?

Ar hyn o bryd yn Nhorfaen mae gennym 29 camera yn gwylio mannau agored cyhoeddus.

  • Blaenafon - 5
  • Garndiffaith - 1
  • Trefddyn - 3
  • Canol tref Pont-y-pŵl - 9
  • Maes parcio Riverside - 7
  • Civic Car Park - 4

Mae gennym hefyd nifer o gamerâu yn gwarchod ysgolion ac adeiladau cyhoeddus eraill.

Beth yw'r broses?

Mae’r holl ddata yn cael ei recordio 24/7, ar yriant caled Systemau Digidol Cyfrifiadurol. Bob 31 diwrnod, byddwn yn recordio drostynt. Os gofynnir am hynny gan awdurdodau gorfodi’r gyfraith neu drwyddedu, gellir cadw darnau penodol o fewn y 31 diwrnod hwnnw gan eu storio yn fwy hirdymor mewn Cwpwrdd Tystiolaeth diogel. Os nad yw’r awdurdod dan sylw ei angen ar ôl 60 diwrnod, caiff ei ddileu y tu hwnt i adfer. Mae cyfleustra i gynhyrchu delweddau llonydd ar y System Ddigidol hon hefyd. Caiff y delweddau hyn eu storio’n ddiogel a’u dileu pan nad oes eu hangen mwyach. Fel rheol, ni chynhyrchir copïau caled.

Caiff unrhyw gamau a gaiff eu perfformio ar y system (er enghraifft, gwylio, copïo i’w storio) eu cofnodi ac mae adroddiadau o holl nodweddion y system ar gael gan y Goruchwyliwr/Rheolwr Teledu Cylch Cyfyng.

Pan fydd tystiolaeth o ddigwyddiad yn cael ei llosgi ar DVD ar gyfer yr heddlu, mae adroddiad o’r holl ddata perthnasol sy’n mynd gyda hyn yn cael ei storio ar y system. Caiff hwn yna ei argraffu i’r heddlu ei ddefnyddio fel llwybr tystiolaeth yn y llys. I sicrhau bod llwybr tystiolaeth di-dor yn cael ei gadw, caiff cod unigryw, yn cysylltu’r cofnod cyfrifiadurol gyda’r DVD, ei losgi ar y DVD. Mae hyn yn rhwystro unrhyw ymyrryd â’r dystiolaeth.

Yn y prosesau hyn, mae Teledu Cylch Cyfyng Torfaen yn cydymffurfio’n llawn gyda’r holl ddeddfwriaeth berthnasol. Bydd holl gyfarpar teledu cylch cyfyng a gaiff ei osod yn destun cyflwyno Achos Busnes ffurfiol. Nod hyn fydd rhoi’r rhesymau pam fo angen monitro gan deledu cylch cyfyng. Caiff pob Achos Busnes ei gyflwyno i’n Hadran Gyfreithiol a’r Tîm Diogelwch Gwybodaeth i sicrhau cydymffurfio gyda chanllawiau statudol a deddfwriaeth.

Cwestiynau Cyffredin

Fedraf ddod i weld darn o ffilm sy’n dangos digwyddiad?

Medrwch, mewn rhai amgylchiadau, ond mae hynny’n ddibynnol ar yr achos dan sylw. Mae gwylio deunydd TCC (CCTV) yn cael ei rheoli gan Reoliadau Diogelu Data 2018 a’r Ddeddf Hawliau Dynol yn ogystal â deddfwriaethau eraill.

Sut fedraf wybod a oes darn o ffilm yn dangos digwyddiad?

Medrwch ofyn am wybodaeth ar ddigwyddiad trwy ddilyn y ddolen ganlynol: DPA@torfaen.gov.uk.

Bydd angen i chi ddarparu’r dyddiad a’r amser yn fras (o fewn cyfnod o 2 awr), yr union ardal lle digwyddiad y peth a’r wybodaeth yn ymwneud â’r digwyddiad.

Bydd CBST yn darparu ffurflen safonol ar gyfer Ceisiadau am Fynediad at Ddeunydd TCC a ddaw i law, dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Unwaith y byddwn wedi edrych ar y recordiad, byddwn yn cysylltu â chi gyda’r canlyniad.

Ble mae’r ystafell TCC?

Nid yw’r wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd.

Ai’r Heddlu sy’n gyfrifol am DCC?

Na. Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sydd yn gyfrifol am y ganolfan TCC, er, rydym yn gweithio gydag asiantaethau eraill yn cynnwys Heddlu Gwent. Police Officers are allowed 24/7 access to view footage.

Pryd mae’r gwasanaeth TCC yn gweithredu?

Rydym yn gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn.

Pwy sydd yn gweld y lluniau?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cyflogi gweithredwyr wedi eu hyfforddi, a fydd yn monitro’r lluniau 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Gellir rhoi unrhyw luniau a welir gan y gweithredwyr i Heddlu Gwent neu’r Awdurdodau Trwyddedu.

Cwynion

Ein nod yw darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf, ond os bydd gan aelod o’r cyhoedd achos i fod yn anhapus gyda’r gwasanaeth hwn, gellir cwyno’n ffurfiol yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/12/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig