Prydlesau a Thrwyddedau Cyfleusterau Chwaraeon
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cydnabod bod ganddo rôl allweddol i'w chwarae wrth gefnogi rhyngweithio cymdeithasol a gweithgaredd corfforol trwy ddarparu ystod amrywiol o adeiladau cymunedol, hamdden, chwaraeon a chyfleusterau cymunedol, gan weithio ar y cyd â chlybiau, cymdeithasau, sefydliadau a grwpiau lleol i ddiwallu anghenion a diddordebau dinasyddion lleol. Felly mae'r Cyngor wedi creu polisi sy'n egluro'r broses a'r trefniadau ar gyfer prydlesu a thrwyddedu cyfleusterau chwaraeon yn Nhorfaen.
Mae’r Polisi ar Brydlesu a Thrwyddedu Neuaddau Cymuned a Chyfleusterau Chwaraeon ar gael yma.
Bydd yn ofynnol i glybiau chwaraeon sydd angen defnyddio tir yn Nhorfaen, a hynny at ddefnydd unigol, ar gyfer gweithgareddau chwaraeon o dan gytundeb prydles neu drwydded, pe bai tir ar gael, gyflwyno cais i'r Cyngor i'w ychwanegu at Restr Aros y Cyfleuster Chwaraeon. Mae rhagor o fanylion am y weithdrefn i'w gweld yn y Polisi uchod.
Rhestr Aros ar gyfer Cyfleuster Chwaraeon
Rhestr Aros ar gyfer Cyfleuster Chwaraeon
| Clwb Chwaraeon | Dyddiad y cofnodwyd ar y rhestr fer | 
|---|
| Clwb Pêl-droed Athletau Llanyrafon (Hŷn) | Gorffennaf 2016 | 
| Clwb Pêl-droed Athletau Rhas | 06 Awst 2017 | 
| Ysgol Gyfun Alban Sant | 28 Medi 2017 | 
| Y Dafarn Newydd (Iau) | 18 Medi 2018 | 
| Clwb Athletau Pêl-droed Croesyceiliog | 1 Gorffennaf 2019 | 
| Clwb Pêl-droed Athletau Iau Coed Eva | 2 Gorffennaf 2019 | 
| Clwb Pêl-droed Athletau Ieuenctid Tref Cwmbrân | 2 Gorffennaf 2019 | 
| Clwb Pêl-droed Athletau Panteg (defnyddio tir Panteg House) | 13 Rhagfyr 2019 | 
| Clwb Pêl-droed Celtaidd Cwmbrân | 9 Mehefin 2020 | 
| Jack David Football Academy | Gorffennaf 2020 | 
| Clwb Rygbi Pêl-droed Gorllewin Mynwy | 16 Awst 2021 | 
| Canolfan Datblygu Chwaraeon NextGen | 15 Medi 2021 | 
| Clwb Pêl-droed Cwmbrân Uchaf | 1 Rhagfyr 2021 | 
| Plant Iau a Hŷn Clwb Rygbi Pêl-droed Talywaun | 8 Mawrth 2022 | 
| Greenmeadow FC  | 10 Mai 2022 | 
| Torfaen Tigers | 18 Awst 2022 | 
| Croesyceiliog RFC Mini & Juniors | 27 Chwefror 2024 | 
| Cwmbran United AFC | Gorffennaf 2025 | 
 Diwygiwyd Diwethaf: 29/07/2025 
 Nôl i’r Brig