Meysydd chwaraeon Talu a Chwarae
Gallwch logi’r meysydd a’r ystafelloedd newid canlynol yng Nghwmbrân, a'r cyntaf i’r felin amdani.
- Pentre’ Uchaf NP44 2JJ: 3 maes
- Pentre’ Isaf NP44 8HT: 3 maes, 2 ystafell newydd, maes bach a man caled
Dylai clybiau sy’n defnyddio meysydd ar les / sydd â’u meysydd eu hunain ddefnyddio’r rhain yn y lle cyntaf.
Prisiau
Timau oedolion
- Llogi meysydd pêl-droed a rygbi ar gyfer gêmau a hyfforddi - £20.35
- Ystafelloedd newid a swyddogion ar gyfer gêmau a hyfforddi - £59.85
Timau iau (16 oed ac iau)
- Llogi meysydd pêl-droed a rygbi ar gyfer gêmau a hyfforddi - £10.80
- Ystafelloedd newid a swyddogion ar gyfer gêmau a hyfforddi - £59.85
Llogi
I logi maes neu ystafell newid bydd angen cerdyn talu arnoch a chopi o’ch dogfen atebolrwydd cyhoeddus.
Cofiwch fod ffurflenni ar gael rhwng dydd Llun a hanner dydd ar ddydd Iau yn unig.
Byddwn yn rhoi ad-daliad dim ond os yw’r Cyngor yn canslo’r trefniadau.
Llogi maes chwaraeon
Llogi ystafell newid
Diwygiwyd Diwethaf: 29/09/2025
Nôl i’r Brig