Datgarboneiddio - busnesau a'r trydydd sector
Mae tua thraean o allyriadau carbon y DU yn cael eu cynhyrchu gan fusnesau.
Cynlluniau lleihau carbon
Gall ein tîm ynni helpu'ch busnes neu eich sefydliad trydydd sector i leihau eu hôl troed carbon ac arbed arian.
Byddwn yn trefnu i ymweld â'ch safle i archwilio i weld faint o ynni yr ydych yn ei ddefnyddio, a gweithio gyda chi i baratoi cynllun lleihau carbon. Dylai cynllun lleihau carbon gael ei ddiweddaru'n flynyddol, i adlewyrchu'r cynnydd rydych chi wedi'i wneud, ac mae'n rhywbeth y mae cyflenwyr yn gofyn fwyfwy amdano.
Gall eich cynllun gynnwys cynnig i newid i ddewisiadau arbed ynni, fel goleuadau LED, neu ganfod grantiau ar gyfer prosiectau ar raddfa fwy fel paneli solar.
Rhwng 2023 a 2025, fe wnaethom helpu bron i 100 o fusnesau a sefydliadau'r trydydd sector i baratoi cynlluniau lleihau carbon a chael hyd i gyllid grant ar gyfer mesurau arbed ynni.
I drefnu cynllun lleihau carbon, cysylltwch â'r Tîm Rheoli Ynni.
Seilwaith cerbydau trydan
I gael cyngor ar gerbydau trydan a seilwaith gwefru ar gyfer eich busnes, cysylltwch â'r Tîm Rheoli Ynni.
Casgliadau ailgylchu a gwastraff ar gyfer safleoedd masnach
Erbyn hyn, rhaid i fusnesau a sefydliadau'r trydydd sector wahanu eu deunyddiau ailgylchu cyn iddynt gael eu casglu. Mae cynyddu cyfraddau ailgylchu yn cyfrannu at leihau allyriadau.
Diwygiwyd Diwethaf: 18/03/2026
Nôl i’r Brig