Arbed ynni i fusnesau a'r trydydd sector
Rhwng 2024-2025, rhoddwyd grantiau i 45 o fusnesau a sefydliadau i newid i ynni adnewyddadwy a neu fuddsoddi mewn lleihau ynni, diolch i Gronfa Ffyniant a Rennir y DU.
Eleni, mae grantiau o hyd at £15,000 ar gael i grwpiau dielw ac mae £10,000 ar gael i fusnesau. Rhaid gwneud cais cyn 5 Gorffennaf, 2025. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ar energy.management@torfaen.gov.uk.
Mae cyllid ychwanegol hefyd ar gael ar gyfer cynlluniau lleihau ynni ar raddfa fawr.
Dyma rai sefydliadau a dderbyniodd grantiau yn 2024-2025:
Able Wales
Derbyniodd y ganolfan ddydd yng Nghwmbrân £24,000 i osod paneli solar sy’n cynhyrchu 20kW, a batri sy’n storio 5kWh. Mae hyn yn arbed tua thair tunnell o garbon, sy'n gyfystyr i’r allyriadau a gynhyrchir drwy yrru 15,000 o filltiroedd. Ers mynd yn fyw ym mis Ebrill 2024, mae'r system wedi darparu 84 y cant o drydan ar gyfartaledd, gan arbed £1,100 y mis ar gyfartaledd.
Neuadd Bentref Ponthir
Derbyniodd y neuadd £25,000 i osod system solar 14kW gyda batri sy’n storio 9kWh. Yn ystod y tri mis cyntaf, fe wnaeth y paneli gynhyrchu 70 y cant o'u hanghenion trydan – gan arbed mwy na £1,500. Roedd y gostyngiad carbon yn gyfystyr â phlannu 60 o goed.
Clwb Athletau Pêl-droed New Inn
Derbyniodd y clwb pêl-droed £24,000 tuag at gost paneli solar 8kW, batri i storio 10.5 kWh a chyfle i uwchraddio eu hunedau gwresogi trydan. Mae'r system newydd wedi dileu eu biliau trydan i bob pwrpas.
Eglwys Yr Efengyl, Sharon
Derbyniodd yr eglwys ym Mhont-y-pŵl gyllid cyfatebol o £12,000 i osod paneli solar 7.7kw gyda batri 10kWh. Amcangyfrifir ei fod wedi arbed mwy nag 1 tunnell o allyriadau carbon bob blwyddyn.
Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange
Derbyniodd y ganolfan yng Nghwmbrân grant o £17,000 i ariannu'r gwaith o osod system panel solar 8 kW ac uwchraddio i oleuadau LED gan arwain at ostwng y carbon o ryw 2.5 tunnell bob blwyddyn. Dangosodd y system monitro digidol eu bod wedi arbed ynni a lleihau costau.
Neuadd Gymuned Pontrhydyrun
Dyfarnwyd £5,400 i gartref Clwb Pêl-droed Pontnewydd i osod nenfwd crog wedi'i inswleiddio ac uwchraddio goleuadau LED i leihau costau gwresogi a chostau trydan. Maent wedi lleihau eu hôl troed carbon o ryw un dunnell y flwyddyn. Mae gwresogi’r ganolfan wedi gwella ac mae archebion wedi cynyddu.
Canolfan Gymdeithasol Llanyrafon
Derbyniodd Cymdeithas Gymunedol Llanyrafon, yng Nghwmbrân, grant o £25,000 i ariannu'r gwaith o osod paneli solar sy’n cynhyrchu 40kW. Ers cwblhau’r prosiect a ariannwyd gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, mae'r clwb wedi cydnabod pa mor fanteisiol yw cynhyrchu eu trydan eu hunain. Ers hynny maent wedi mynd ati ar ei liwt eu hunain i ariannu batri i storio ynni i ategu at eu system paneli solar newydd, sy'n cyflenwi trydan tan eu hamser cau.
Caffi’r ‘Boat House’
Mae'r caffi ar safle Llyn Cychod Cwmbrân wedi derbyn cyllid ar gyfer system paneli solar a goleuadau LED yn y caffi a'r toiledau, sydd ar y cyd wedi arbedi mwy na thair tunnell o garbon y flwyddyn.
Cwrs Golff Llanyrafon
Derbyniodd y safle yng Nghwmbrân grant o £22,000 i ariannu'r gwaith o osod system paneli solar 17kW gyda batri sy’n storio 20,000kwH. Amcangyfrifir y bydd yn lleihau eu hôl troed carbon o ryw tair tunnell y flwyddyn. Maen nhw'n rhagweld y bydd y system yn arbed miloedd o bunnoedd dros y blynyddoedd nesaf.
Salon Rene
Mae'r salon trin gwallt, yng Nghwmbrân wedi derbyn bron i £5,000 i dalu am oleuadau fflwroleuol LED a gwresogyddion sy’n defnyddio ynni’n effeithlon. Maent wedi lleihau allyriadau, arbed arian a gwella’r goleuadau a’r system wresogi yn y salon.
Diwygiwyd Diwethaf: 18/07/2025
Nôl i’r Brig