Cymeradwyaeth ar gyfer Safleoedd Bwyd - Gwneud Cais am Drwydded

Cymeradwyaeth ar gyfer Safleoedd Bwyd
Crynodeb o'r Drwydded

Os ydych yn rhedeg safle bwyd, mae'n bosibl y bydd angen cymeradwyaeth arnoch gan eich awdurdod lleol.

 

Mae enghreifftiau o'r mathau o safleoedd y mae'n rhaid eu cymeradwyo gan awdurdodau lleol yn rhai annibynnol (h.y. nid ydynt yn rhan o ladd-dŷ, ffatri torri cig neu sefydliad trafod helgig):

 

  • ffatrïoedd prosesu cig
  • ffatrïoedd paratoi cig
  • gweithfeydd prosesu briwgig a ffatrïoedd prosesu cig sy'n cael ei wahanu'n fecanyddol
  • safleoedd sy'n storio bwyd wedi'i oeri
Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith

Cyfarwyddeb 853/2004 y Gymuned Ewropeaidd

 

Arweiniad ynghylch y ddeddfwriaeth

Sut i ymgeisio

Os hoffech wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer safle bwyd, cewch lawrlwytho copi o'r ffurflen gais yn y fan hon.

 

Nodiadau i ymgeiswyr

 

Rhaid anfon y ffurflen cais am gymeradwyaeth i'r awdurdod lleol y mae'r safle bwyd wedi'i leoli ynddo. Os anfonir y ffurflen i'r cyfeiriad anghywir, ni ddaw eich cais i rym hyd nes bydd yn cyrraedd y lleoliad cywir.

Ffïoedd ymgeisio

Nid oes tâl am wneud cais i gofrestru safle bwyd.

Y broses ymgeisio

Byddem yn cynghori bob amser eich bod yn cysylltu â ni cyn gwneud cais, fel y gallwn roi cyngor i chi ynghylch a oes angen cymeradwyaeth ar eich safle ac, os felly, y safonau y bydd angen eu bodloni.

 

Pan fyddwn yn derbyn eich cais, byddwn yn trefnu arolygu eich safle a thrafod y prosesu a fwriedir gennych er mwyn pennu a yw'r holl systemau, gweithdrefnau a dogfennau yn ateb gofynion hylendid bwyd. Ar yr adeg hon, gellir rhoi cymeradwyaeth yn llawn neu'n amodol am dri mis.

 

Ym mhob cam o'r broses, gallwch ddisgwyl i ni roi gwybodaeth ysgrifenedig lawn i chi am statws eich cymeradwyaeth. Os caiff cymeradwyaeth ei gwrthod, neu ei rhoi'n amodol yn unig, mae gennych rai hawliau apelio hefyd.

 

Cymeradwyaeth amodol

 

Os byddwn yn rhoi cymeradwyaeth amodol, byddwn yn rhoi gwybod i chi'n ysgrifenedig am delerau'r gymeradwyaeth amodol. Os ydych wedi cydymffurfio â'r telerau hyn ymhen tri mis, cewch ymweliad pellach pan fyddwch yn cael cymeradwyaeth lawn, neu'n cael cymeradwyaeth amodol am dri mis arall neu bydd cymeradwyaeth yn cael ei gwrthod.

 

Cymeradwyaeth lawn

 

Bydd Nod Adnabod (nod hirgrwn) unigryw'n cael ei roi i'r safleoedd hynny sy'n cael cymeradwyaeth lawn, a dylid rhoi'r nod hwnnw ar labeli neu becynnau cynhyrchion. Byddwn yn rhoi gwybod i'r Asiantaeth Safonau Bwyd, sy'n cynnal cronfa ddata genedlaethol o bob safle cymeradwy, am y gymeradwyaeth.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nac ydyw. Mae safleoedd sydd angen cymeradwyaeth yn rhai sy'n trafod neu'n prosesu cynhyrchion sy'n deillio o anifeiliaid, a bwriad y broses gymeradwyo yw sicrhau bod y cynhyrchion bwyd hyn yn ddiogel i'w bwyta. Ni fydd cymeradwyaeth ddealledig yn berthnasol oherwydd gallai hyn beryglu iechyd y cyhoedd, drwy ganiatáu i safleoedd nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheoliadau hylendid werthu bwyd.

Apeliadau a Chwynion

Os caiff cais ei wrthod neu os rhoddir cymeradwyaeth amodol yn unig, cewch wybod y rhesymau'n ysgrifenedig a hefyd y materion sy'n angenrheidiol i fodloni'r gofynion cymeradwyo. Hefyd, cewch wybod am eich hawl i apelio i'r Llys Ynadon.

 

Os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol, dylech ddilyn gweithdrefn gwyno'r awdurdod.

Cymdeithasau Masnach

Comisiwn Cig a Da Byw Gogledd Iwerddon (LMC) 

 

Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd 

 

Ffederasiwn Cymdeithasau Masnachu Cig yr Alban (SFMTA)

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen

Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig