Canolfannau Busnes

Mae Torfaen yn cynnig portffolio o adeiladau o ansawdd uchel am bris rhesymol ar draws pob math o ddosbarthiad. Mae telerau hyblyg ar gael ar gyfer adeiladau y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn berchen arnynt ac yn eu rheoli. Bydd ein tîm Rheoli Asedau yn ymdrechu i alluogi tenantiaid i gael yr adeilad sy'n bodloni eu hanghenion orau, p'un a ydynt yn dechrau, yn symud neu'n ehangu yn Nhorfaen.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn darparu gwasanaethau rheoli ar gyfer canolfannau busnes yn Nhorfaen. Mae Canolfannau Busnes yn cynnwys gweithleoedd diwydiannol a swyddfeydd bychain sydd wedi'u llunio ar gyfer dechrau busnesau.

Gall Canolfan Arloesi Busnes Springboard helpu busnesau newydd a’r rheini yn eu dyddiau cynnar yn y maes gwyddoniaeth, arloesi a thechnoleg i oresgyn rhwystrau i lwyddiant. Gall gynnig swyddfa dros dro sy’n hyblyg, modern, cyfle i rentu desg yn ogystal â swyddfeydd traddodiadol a labordai i helpu eich busnes i arloesi, tyfu a datblygu.

Mae canolfannau busnes wedi'u lleoli ym Mlaenafon, Pont-y-pŵl a Chwmbrân. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y Tîm Rheoli Asedau ar 01495 742902.

Gyda'i statws o ran y Gronfa Gydgyfeirio, mae Torfaen yn lle perffaith i ddechrau busnes.

Mae'r canolfannau busnes yn hawdd eu cyrraedd o rwydwaith yr M4 sy'n cysylltu Torfaen â Llundain. Mae maes awyr Caerdydd a maes awyr Bryste yn daith o 40 munud o Dorfaen mewn car.

Canolfannau Busnes yn Nhorfaen

  • Canolfan Fusnes Blaenafon
  • Victoria House ym Mlaenafon
  • Canolfan Arloesi Busnes Springboard yng Nghwmbrân
  • Canolfan Busnesau Bach New Inn
  • Canolfan Busnesau Bach Tŷ Pontsychan yn Abersychan
  • Canolfan Busnesau Bach Oldbury Road yn Hen Gwmbrân
  • Y Stiwdio yn Hen Gwmbrân
  • Tŷ Coed Arian yn Hen Gwmbrân
Diwygiwyd Diwethaf: 09/04/2026
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Asedau

Ffôn: 01495 742902

Nôl i’r Brig