Dywedwch Wrthym Unwaith

Pan fydd rhywun wedi marw, mae yna lawer o bethau y mae angen eu gwneud, a hynny ar adeg pan na fyddwch o bosib yn teimlo fel eu gwneud.

Mae Dywedwch wrthym Unwaith yn wirfoddol ac yn ddefnyddiol iawn. Mae'n eich galluogi i riportio marwolaeth unwaith yn unig, gan ddweud wrth wasanaethau llywodraeth ganolog a lleol yn ddiogel ac yn gyfrinachol heb i chi orfod gysylltu â nhw'n unigol.

Mae fideo fer sy’n cynnwys y wybodaeth ac yn egluro’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith ar gael yma i’w gwylio ar YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=Xw0Ob59HFEY

Mae modd rhoi gwybod i lawer o wasanaethau, ac maent yn cynnwys:

  • y cyngor lleol - i ddweud wrth wasanaethau fel Tai Cyngor, Budd-dal Tai, Treth y Cyngor, Bathodyn Glas a thynnu'r person o'r Gofrestr Etholiadol
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGaPh) - i ddiweddaru gwybodaeth am fudd-daliadau er enghraifft: Pensiwn y Wladwriaeth, Credyd Cynhwysol
  • Y Swyddfa Pasbort - i ganslo pasbort Prydeinig
  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) - i ganslo trwydded yrru a dileu manylion ceidwad cofrestredig, o bosibl ar gyfer hyd at bum cerbyd
  • Cynlluniau Pensiwn y Sector Cyhoeddus neu'r Lluoedd Arfog - i ddiweddaru cofnodion pensiwn

Sut ydw i’n defnyddio’r gwasanaeth?

Ar ôl i chi gofrestru'r farwolaeth gyda'r Cofrestrydd, gall y Cofrestrydd gwblhau'r gwasanaeth Dywedwch wrthym Unwaith gyda chi ar yr un pryd.

Fel arall, bydd y Cofrestrydd yn darparu cyfeirnod unigryw Dywedwch wrthym Unwaith, a fydd yn eich galluogi i gyrchu'r gwasanaeth Ar-lein trwy GOV.UK.

Os ydych chi wedi cael Ffaith Marwolaeth gan y Crwner (Tystysgrif Marwolaeth Dros Dro) efallai y byddwch chi'n dal i allu defnyddio'r gwasanaeth a bydd y Cofrestrydd yn eich cynghori sut i wneud hynny.

Bydd yn eich helpu i gael yr holl wybodaeth berthnasol a restrir isod am yr unigolyn cyn defnyddio Dywedwch wrthym Unwaith:

  • dyddiad geni
  • cyfeiriad yr ymadawedig
  • rhif Yswiriant Gwladol
  • rhif trwydded yrru
  • rhif cofrestru’r cerbyd
  • rhif pasbort

Bydd hefyd angen:

  • manylion unrhyw fudd-daliadau neu hawliau yr oeddent yn eu derbyn, er enghraifft Pensiwn y Wladwriaeth, Credyd Cynhwysol
  • manylion unrhyw wasanaethau cyngor lleol yr oeddent yn eu derbyn, er enghraifft Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, Bathodyn Glas, tocyn teithio
  • enw a chyfeiriad eu perthynas agosaf
  • enw a chyfeiriad unrhyw briod neu bartner sifil sy'n fyw
  • enw, cyfeiriad a manylion cyswllt yr unigolyn neu gwmni sy’n delio â’i stad (eiddo, eitemau ac arian), a elwir yn ‘ysgutor’ neu ‘weinyddwr’
  • manylion unrhyw gynlluniau pensiwn sector cyhoeddus neu luoedd arfog yr oeddent yn eu cael neu'n talu i mewn iddynt

Sylwer

  • Mae angen caniatâd gan y perthynas agosaf, yr ysgutor, y gweinyddwr ac unrhyw un a oedd yn hawlio budd-daliadau neu hawliau ar y cyd â'r unigolyn a fu farw, cyn i chi roi eu manylion.
  • Nid oes angen cyswllt dilynol ar ôl i chi ddefnyddio Dywedwch wrthym Unwaith oni bai nad ydych yn derbyn cadarnhad gan yr adran berthnasol ar ôl cyfnod rhesymol o amser, yn y rhan fwyaf o achosion mis calendr.
  • Unwaith y bydd yr amrywiol asiantaethau a hysbyswyd gan Dywedwch Wrthym Unwaith wedi derbyn hysbysiad o'r farwolaeth, byddant yn cysylltu ymhellach â'r teulu mewn profedigaeth, os bydd angen.
  • Mae Dywedwch wrthym Unwaith yn fodd o hawlio, felly cysylltwch â GOV.UK neu'r adran berthnasol i gael cyngor.
  • Nid yw Dywedwch wrthym Unwaith yn hysbysu unrhyw sefydliadau masnachol ynghylch y farwolaeth ac ni allant drefnu i ailgyfeirio post.
Diwygiwyd Diwethaf: 17/08/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cofrestryddion

Ffôn: 01495 742132

E-bost: registrars@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig