Cofrestru marwolaeth

Gall ein tîm helpu i'ch arwain chi drwy'r broses o gofrestru marwolaeth.

Does dim gwahaniaeth os yw marwolaeth yn digwydd yn y gymuned neu mewn ysbyty, mae'n rhaid i bob marwolaeth fynd trwy broses graffu statudol yr Archwilydd Meddygol

Bydd y meddyg a oedd yn gofalu am yr un sydd wedi marw cyn y farwolaeth, yn cyfeirio'r gwaith papur at yr archwilydd meddygol neu at swyddfa'r crwner. Wedyn, bydd yr archwilydd meddygol neu’r crwner yn gwneud y gwiriadau angenrheidiol ac yna’n anfon yr awdurdod i gofrestru'r farwolaeth at y gwasanaeth Cofrestru priodol. 

Os digwyddodd y farwolaeth yn Nhorfaen, bydd un o'n cofrestryddion yn cysylltu â chi'n uniongyrchol, i drefnu apwyntiad cofrestru marwolaeth.

Rhaid i'r farwolaeth gael ei chofrestru yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth. Gellir rhoi manylion y farwolaeth mewn swyddfa gofrestru arall yng Nghymru a Lloegr trwy wneud datganiad, ond bydd hyn yn golygu bod oedi cyn cael y gwaith papur angenrheidiol i ganiatáu i'r angladd ddigwydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod y broses yn fanylach, mae croeso i chi gysylltu â'r swyddfa ar 01495 742 132

Pryd ddylwn i gofrestru marwolaeth?

Yn gyfreithiol, mae’n ofynnol fod marwolaeth yn cael ei chofrestru o fewn 5 niwrnod i'r dyddiad y mae Swyddfa'r Archwilydd Meddygol yn anfon y Dystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth at y Cofrestrydd. Mae hyn yn cynnwys penwythnosau a Gwyliau Banc.

Pwy sy’ gallu cofrestru marwolaeth?

Mae pobl sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gofrestru marwolaeth yn cynnwys:

  • Perthynas i'r un sydd wedi marw
  • Rhywun a oedd yno pan fu farw
  • Deiliad y lleoliad lle bu farw'r unigolyn os oedd yn gwybod am y farwolaeth
  • Yr un sy’n gyfrifol am drefnu'r angladd (nid yw hyn yn cynnwys y trefnwr angladdau)
  • Partner yr un sydd wedi marw
  • Cynrychiolydd personol yr un sydd wedi marw

Faint mae'n ei gostio i gofrestru marwolaeth?

Nid oes tâl am gofrestru marwolaeth.

Faint mae'n ei gostio am gopi o'r dystysgrif marwolaeth?

Mae tystysgrifau marwolaeth yn £12.50 yr un adeg cofrestru.

Pa wybodaeth y bydd ei hangen ar y Cofrestrydd am yr un sydd wedi marw?

Bydd y Cofrestrydd yn siarad â chi’n breifat yn y Swyddfa Gofrestru a bydd yn gofyn i chi am y wybodaeth ganlynol:

  • Dyddiad a lleoliad y farwolaeth
  • Enw llawn a chyfenw yr un sydd wedi marw (a'r cyfenw cyn priodi os oedd yr un sydd wedi marw yn fenyw briod/bartner sifil)
  • Eu dyddiad geni a'u man geni
  • Gwaith yr un sydd wedi marw ac, os oedd yr un sydd wedi marw yn briod neu mewn partneriaeth sifil, enw llawn a swydd eu priod neu bartner sifil
  • Dyddiad geni priod neu bartner sifil sy'n fyw
  • Rhif Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yr un sydd wedi marw. Mae’r rhif hwn ar y Cerdyn Meddygol
  • Manylion pensiwn sector cyhoeddus e.e. gwasanaeth sifil, athrawon neu’r lluoedd arfog

Os byddaf yn cofrestru'r farwolaeth yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth, pa ddogfennaeth y byddaf yn ei chael ar ôl cofrestru?

  • Unrhyw dystysgrif(au) marwolaeth y gofynnwyd amdanynt - £12.50 yr un
  • Y dystysgrif werdd ar gyfer claddu neu amlosgi

Beth sy'n digwydd os nad ydw i'n gallu cofrestru'r farwolaeth yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth?

Os nad ydych yn gallu cofrestru'r farwolaeth yn yr ardal lle digwyddodd y digwyddiad, gallwch roi’r wybodaeth ar gyfer cofrestru i unrhyw gofrestrydd yng Nghymru neu Loegr. Bydd gofyn i chi fynd i swyddfa'r cofrestrydd o’ch dewis i wneud datganiad am y manylion er mwyn cofrestru. Yna, bydd y datganiad hwn yn cael ei anfon ymlaen at y cofrestrydd yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth.

Os byddaf yn cofrestru marwolaeth trwy ddatganiad, pa ddogfennau fyddaf yn eu cael a phryd fyddaf yn cael y dogfennau drwy'r post?

Bydd y dogfennau canlynol yn cael eu hanfon atoch ar ôl i'r farwolaeth gael ei chofrestru'n swyddogol yn yr ardal lle digwyddodd y digwyddiad.

  • Ffurflen ar gyfer yr Ymgymerwr (y ffurflen werdd 9W) sy'n rhoi'r awdurdodiad i wneud y trefniadau ar gyfer yr angladd;
  • Unrhyw dystysgrif(au) marwolaeth y gofynnwyd amdanynt - £12.50 yr un;

Sylwch: Bydd oedi o hyd at 7 niwrnod o ddyddiad y datganiad cyn i chi gael y dogfennau uchod drwy'r post

Os oes angen cymorth pellach arnoch gyda’r broses ddatgan, mae croeso i chi gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru ar 01495 742132.

Beth os ydw i’n gwneud camgymeriad wrth lenwi’r wybodaeth ar gyfer Cofrestru Marwolaeth?

Wrth lenwi’r wybodaeth, rhaid i chi wirio’r manylion ar dudalen y gofrestr yn ofalus. Unwaith y bydd y cofnod wedi'i lofnodi, rydych chi'n nodi bod popeth yn gywir a'i fod yn ddatganiad gwir.

Os na fyddwch yn sylwi ar wall wrth wirio’r cofnod cofrestru a’i lofnodi (genedigaeth, marwolaeth, priodas, partneriaeth sifil), bydd y ffi i ofyn am gywiriad yn £83 neu’n £99 gan ddibynnu ar y math o gywiriad. Bydd ffioedd hefyd am dystysgrifau newydd.

Sylwch: Nid yw'r ffi hon yn gwarantu y gellir gwneud y cywiriad.

Angladd Ffydd Grefyddol

Mewn rhai credoau crefyddol a diwylliannol, mae'n draddodiad cynnal yr angladd yn fuan ar ôl y farwolaeth (fel arfer o fewn 24 awr). Os ydych chi wedi colli rhywun annwyl, ac mae angen trefnu apwyntiad cofrestru marwolaeth arnoch ar frys, cysylltwch â ni ar 01495 742132. Os oes arnoch angen siarad â ni y tu allan i oriau arferol y swyddfa, ffoniwch y Ganolfan gyswllt y tu allan i oriau arferol ar 01495 762200 am gymorth.

Sylwch: Mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd angen adrodd wrth y crwner am y farwolaeth. Gall hyn olygu nad ydym yn gallu cyhoeddi'r gwaith papur angenrheidiol sy'n ofynnol er mwyn caniatáu i'r angladd gael ei chynnal o fewn yr amser gofynnol.

Diwygiwyd Diwethaf: 12/05/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cofrestryddion

Ffôn: 01495 742132

E-bost: registrars@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig