Talu Ar-lein
Mae ein cyfleuster talu ar-lein yn caniatáu i chi dalu biliau yn uniongyrchol ac yn ddiogel i'r Cyngor ar gyfer:
- Treth y Cyngor
- Trethi Busnes
- Anfonebau'r Cyngor
- Gordaliadau Budd-dal Tai
- Tai Dros Dro
Os hoffech dalu am un o wasanaethau'r Cyngor nad oes sôn amdano uchod, ffoniwch Galw Torfaen ar 01495 762200.
Gallwch gael gwybodaeth am faint sy'n daladwy trwy anfon cais atom yn e-payments@torfaen.gov.uk neu drwy ffonio Galw Torfaen ar 01495 762200. Dylai cwsmeriaid Bron Afon ffonio 0800 1114242.
Mae'r Awdurdod yn derbyn cardiau debyd a chredyd ar-lein. Mae hwn yn ddull gwbl ddiogel o dalu sy'n gyflym a hawdd ei ddefnyddio.
Gwneud taliad
O 3 Mawrth 2022, bydd y cyngor yn ychwanegu'r gallu i bobl sy'n darparu cardiau ddefnyddio lefel ychwanegol o ddiogelwch wrth brosesu ein taliadau cerdyn ar-lein. Efallai eich bod eisoes wedi sylwi ar hyn gan fod llawer o wefannau bellach wedi cyflwyno'r gofyniad diogelwch gorfodol ychwanegol dan sylw. Pan fyddwch yn talu'r cyngor efallai y gofynnir i chi am fesur ychwanegol i'ch dilysu, bydd hyn yn amrywio, gan ei fod yn ddibynnol ar y cwmni sy'n darparu'r cerdyn (Efallai y cewch neges destun, e-bost, neu neges drwy ap, dyfais Pinsentry ac ati) Efallai na fydd angen y dilysiad ychwanegol hwn ar rai trafodion ac mae hyn eto hefyd yn ddibynnol ar y sawl sy'n darparu'ch cerdyn.
Bydd ein taliadau yn cael eu monitro'n agos ond os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth wneud taliad i ni ac os bydd eich banc yn cadarnhau nad yw'r mater yn gysylltiedig â'ch cerdyn yna a fyddech cystal ag anfon e-bost i e.payments@torfaen.gov.uk neu os yw eich taliad yn gysylltiedig ag ysgolion anfonwch e-bost i educationpayments@torfaen.gov.uk.
Ateb Eich Cwestiynau
A yw'r safle yn ddiogel?
Mae gwefan Torfaen yn safle diogel. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd ar-lein. Mae'r wefan hon yn defnyddio tystysgrif ddigidol, sy'n debyg i basbort electronig. Cyflwynwyd y dystysgrif ddigidol hon i Dorfaen i brofi mai ni ydym ni ac fel eich bod yn gwybod y gallwch ymddiried ynom i ddelio gyda gwybodaeth sensitif.
Rydych yn lawr lwytho'r dystysgrif yn awtomatig i'ch porwr y tro cyntaf y byddwch yn defnyddio'r opsiwn i dalu ar-lein. Pan fyddwch yn mynd i mewn i'r ardal ddiogel ar ein gwefan, fe welwch eicon clo yn ymddangos yn y gornel ar waelod ffenestr eich porwr. Gallwch glicio ar y clo i fod yn sicr mai yn Nhorfaen yr ydych yn ymddiried.
Mae Torfaen hefyd yn cydymffurfio'n llawn â holl ofynion y Diwydiant Cardiau Talu (PCI). Mae hyn yn golygu bod amgylchedd ein gweinyddwr yn cael ei sganio'n rheolaidd gan sganiwr diogelwch annibynnol a gymeradwywyd.
A yw'n ddiogel i dalu ar-lein?
Nid yw Torfaen yn cadw data am ddeiliad y cerdyn a gofnodir wrth wneud taliad. Mae'r holl wybodaeth am ddeiliad y cerdyn yn cael ei hanfon yn ddiogel i'w awdurdodi drwy borth banc a gymeradwywyd.
Rydym yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998 gan sicrhau ein bod yn diogelu a gofalu am wybodaeth bersonol. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhannu gyda ni yn electronig yn cael ei defnyddio at y diben a fwriadwyd.
Pa fesurau sydd yn eu lle i ganfod taliadau twyllodrus drwy gerdyn?
Mae gwasanaeth talu ar lein yr Awdurdod yn cydymffurfio'n llawn â'r mesurau gwrth-dwyll diweddaraf a gyflwynwyd gan y banciau i frwydro yn erbyn y defnydd twyllodrus o gardiau pan nad yw deiliad y cerdyn yn bresennol (hy taliadau dros y ffôn a'r rhyngrwyd). Mae'r mesurau gwrth dwyll wedi eu hanelu at gadarnhau mai'r person sy'n gwneud y taliad mewn gwirionedd yw deiliad y cerdyn.
Wrth ddarparu manylion eich cerdyn i ni i wneud taliad dros y ffôn neu'r rhyngrwyd byddwn yn gofyn i chi ddarparu cod diogelwch 3 digid y cerdyn ar gefn eich cerdyn.
Yn ogystal â hyn, mae ein safle wedi ei ddiogelu gan 3DSecure sef y term a ddefnyddir i ddisgrifio "Mastercard SecureCode" a "Verified by Visa". Mae 3D Secure yn gofyn am gyfrinair i'w gofnodi gan ddeiliad y cerdyn cyn y gellir awdurdodi'r taliad. Rhaid i ddeiliaid cerdyn gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn drwy gyfrwng gwefan cyhoeddwr y cerdyn. Os bydd cyhoeddwr eich cerdyn yn galw am gyfrineiriau 3DSecure ar gyfer trafodion rhyngrwyd, yna darperir tudalen we ar wahân, fydd yn gofyn am eich cyfrinair. Ni chymerir y taliad onid y nodir cyfrinair dilys.
Mae Mastercard sy'n berchen ar y brand Maestro wedi gorchymyn bod RHAID defnyddio 3DSecure i wirio POB taliad dros y rhyngrwyd a wneir gan ddefnyddio Maestro neu Mastercard.
I gael mwy o wybodaeth am 3DSecure a sut mae'n berthnasol i chi, cysylltwch yn uniongyrchol â chyhoeddwr eich cerdyn.
Beth fedraf ei dalu ar lein?
Treth y Cyngor, Trethi Busnes, Rhenti Tai, Trethi Dŵr y Cyngor, Gordaliadau Budd-dal Tai ac anfonebau'r Cyngor.
Pam na allaf dalu biliau eraill fel ffioedd cynllunio, taliadau llyfrgell hwyr a ffioedd cyrsiau addysg?
Y bwriad yw ymgorffori'r holl daliadau i'r Cyngor ar-lein yn y dyfodol. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno gwneud taliad am wasanaethau'r Cyngor nad yw'n cael ei grybwyll yn y rhestr talu ar-lein, ffoniwch Galw Torfaen ar 01495 762200.
A fedraf dalu mwy nag un bil?
Medrwch. Os ydych yn dymuno talu, er enghraifft, eich treth y cyngor, rhent a threthi dŵr, dilynwch y cyfarwyddiadau a roddir yn ystod y trafodyn.
A oes ffyrdd eraill i dalu?
I ganfod pa ffyrdd eraill sydd ar gael i dalu, ewch i dudalen sut a ble medraf dalu .
Pa gardiau ydych chi’n eu derbyn?
Rydym yn derbyn Cardiau Debyd a Chredyd. Gallwch dalu gyda Cherdyn Debyd Visa, Visa Electron, Solo, Cerdyn Credyd Visa neu Gerdyn Mastercard.
A fedraf gael derbynneb?
Medrwch, bydd derbynneb yn cael ei arddangos ar y sgrin pan fydd eich taliad yn cael ei dderbyn. Gallwch ddefnyddio eich porwr i argraffu'r sgrin.
Beth os bydd fy ngherdyn yn cael ei wrthod?
Mae dau reswm efallai na fydd eich cerdyn cael ei dderbyn. Sef:
- Math o gerdyn annilys - gwnewch yn siŵr bod y cerdyn yr ydych yn ei ddefnyddio yn un o'r rhai sy'n ymddangos uchod
- Y banc yn gwrthod ei awdurdodi - mae yna lawer o resymau pam y gallai hyn ddigwydd ac rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â'ch banc yn uniongyrchol
Nid yw Torfaen byth yn gwrthod cardiau.
Diwygiwyd Diwethaf: 31/10/2023
Nôl i’r Brig