PN177- Hysbysiad Preifatrwydd Cydgynllun Datblygu Lleol

Mae Cynghorau Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Thorfaen wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth i chi am y data sydd gennym amdanoch, sut rydym yn eu defnyddio, eich hawliau mewn perthynas â’r data a'r mesurau diogelu sydd ar waith i'w diogelu. Mae'n angenrheidiol i'r Cynghorau gasglu gwybodaeth bersonol am bobl sy'n cyflwyno safleoedd ymgeisio, a’r rheiny sy’n rhan o’r gwaith o baratoi sylwadau am y Cynllun neu ddogfennau cysylltiedig, gan gynnwys Canllawiau Cynllunio Atodol, a storio’r wybodaeth honno a’i phrosesu.

Maes Gwasanaeth CBST: Yr Economi a Lle
Maes Gwaith: Cynllunio a Gweithredu Polisïau
Manylion Cyswllt: E-bost: ldp@torfaen.gov.uk neu adrian.wilcock@torfaen.gov.uk - Rhif Ffôn: 01633 648039

Maes Gwasanaeth CBSBG: Yr Economi a Lle
Maes Gwaith: Cynlluniau Datblygu
Manylion Cyswllt: E-bost: planningpolicy@blaenau-gwent.gov.uk neu john.raine@blaenau-gwent.gov.uk - Rhif Ffôn: 01495 369668

Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Cydgynllun Datblygu Lleol

Rheolyddion Data:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen,  d/o Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl, NP4 6YB

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 8UW

Os ydych yn dymuno codi pryder am y ffordd y trafodwyd eich data personol, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio'r manylion isod:

Torfaen - Rhif Ffôn: 01495 762200 - E-bost: dpa@torfaen.gov.uk

Blaenau Gwent - Rhif Ffôn: 01495 355080 - E-bost: dataprotection@blaenau-gwent.gov.uk

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn wedi cael ei ysgrifennu'n benodol i gwmpasu camau gwahanol proses y Cydgynllun Datblygu Lleol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Ochr yn ochr â'r Cydgynllun Datblygu Lleol ei hun, byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y dogfennau cysylltiedig canlynol:

  • Cytundeb Cyflawni’r Cydgynllun Datblygu Lleol
  • Galwad am Safleoedd Ymgeisio a'u Hasesiadau
  • Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI)
  • Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC)
  • Dogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) (yn atodol i’r Cydgynllun Datblygu Lleol)
  • Yr Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)

Pwy sy'n rhoi’ch data i'r Cyngor?

Chi neu asiant (fel y'i hawdurdodwyd gennych) sy’n rhoi’r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu i ni, yn uniongyrchol, mewn ymateb i:

  • Alwad y Cyngor am Safleoedd Ymgeisio
  • Gweithdai / Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
  • Cyfleoedd Ymgynghori ar gyfer y Cyhoedd / Rhanddeiliaid
  • Ceisiadau i gael gwybod am ddiweddariadau a chynnydd ynghylch y Cydgynllun Datblygu Lleol ac unrhyw gyfleoedd ymgynghori.

Nid ydym yn cael gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol o unrhyw ffynhonnell arall.

Sut y mae'r Cyngor yn casglu'r wybodaeth hon?

  • Ffurflenni electronig trwy OpusConsult (cronfa ddata benodol i gefnogi proses y Cydgynllun Datblygu Lleol)
  • Ffurflenni electronig trwy arolwg ar wefan CBST a CBSBG
  • Ffurflenni PDF / Word wedi'u hanfon trwy e-bost at y Tîm
  • Ffurflenni papur, wedi'u llenwi â llaw a'u postio at y Tîm
  • Negeseuon e-bost a geir gan y Tîm
  • Llythyrau a geir gan y Tîm
  • Cyswllt wyneb yn wyneb â'r Tîm
  • Cofnodion Gweithdai Rhanddeiliaid a gymerwyd gan y Tîm

Pwy sy'n gyfrifol am eich gwybodaeth?

Mae'r holl wybodaeth bersonol yn cael ei chadw a'i phrosesu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data. I gael gwybodaeth am rôl y Rheolydd Data, y Swyddog Diogelu Data a Manylion Cyswllt y Cyngor, gweler tudalen 'Diogelu Data' gwefannau'r Cynghorau:

Pa wybodaeth y mae'r Cyngor yn ei chasglu amdanoch chi?

Mae'r Timau Polisi Cynllunio a Chynlluniau Datblygu yn casglu'r wybodaeth ganlynol: -

Ymarfer Galwad am Safleoedd Ymgeisio

  • Enwau cynigwyr y safle (cwmni / sefydliad) a / neu asiantau
  • Manylion cyswllt (cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn)
  • Perchnogaeth tir ar gyfer y safle ymgeisio

Gweithdai / Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

  • Enw
  • Teitl y Swydd a'r Cyflogwr / Sefydliad (os yw'n berthnasol)
  • Manylion cyswllt (cyfeiriad post a / neu gyfeiriad e-bost, rhif ffôn)
  • Unrhyw wybodaeth bersonol a ddatgelir mewn sylwadau a wnaed (yn ysgrifenedig neu ar lafar)

Cyfleoedd Ymgynghori Cyhoeddus

  • Enw
  • Teitl y Swydd a'r Cyflogwr / Sefydliad (os yw’n berthnasol)
  • Manylion cyswllt (cyfeiriad post a / neu gyfeiriad e-bost, rhif ffôn)
  • Unrhyw wybodaeth bersonol a ddatgelwyd mewn sylwadau a wnaed

Ceisiadau i gael gwybod am ddiweddariadau a chynnydd ynghylch y Cydgynllun Datblygu Lleol ac unrhyw gyfleoedd ymgynghori

  • Enw
  • Teitl y Swydd a'r Cyflogwr / Sefydliad (os yw’n berthnasol)
  • Manylion cyswllt (cyfeiriad post a / neu gyfeiriad e-bost)

Pam y mae'r Cyngor yn prosesu eich data personol?

O dan Erthygl 6 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR), y seiliau cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw: -

(a) Eich cydsyniad. Mae hyn os ydych chi'n tanysgrifio i gael diweddariadau gennym. Mae’r cydsyniad ar gyfer y diben penodol y rhoddwyd y cydsyniad ar ei gyfer yn unig, a gallwch dynnu'ch cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg. Nid ydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithlon ar gyfer unrhyw brosesu arall: -

(c) Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol; ac

(e) Mae ei hangen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus.

Mae angen y wybodaeth hon arnom hefyd i gyflawni ein dyletswyddau o dan y canlynol:

  • Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a'r Rheoliadau cysylltiedig
  • Deddf Cynllunio ac Iawndal 1991 - diwygio'r Ddeddf uchod
  • Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 - diwygiodd Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
  • Adrannau 19, 28 a 62,  Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.
  • Rhan 11 o Ddeddf Cynllunio 2008
  • Adran 222(2)(B) Deddf Cynllunio 2008
  • Adran 11 Deddf Cynllunio (Cymru) 2015
  • Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 2005 (fel y'u diwygiwyd) (Rheoliadau CDLl)
  • Rheoliadau Asesiad Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 (Rheoliadau SEA);
  • Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y'u diwygiwyd)
  • Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010 (fel y'u diwygiwyd)
  • Polisi Cynllunio Cenedlaethol / Polisi Cynllunio Cymru
  • Llawlyfr Cynlluniau Datblygu 3 (2020) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru

Mae angen y wybodaeth hon arnom i:

  • Brosesu eich cyflwyniad ar gyfer safle ymgeisio
  • Adrodd am eich cyfranogiad yn y gwaith o ddatblygu'r Strategaeth a Ffefrir
  • Prosesu sylwadau am y Cynllun Datblygu (Strategaeth a Ffefrir, Cynllun Adneuo, Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol, Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd a'r Gofrestr ac Asesiadau Safleoedd Ymgeisio)
  • Prosesu sylwadau am Ganllawiau Cynllunio Atodol
  • Cysylltu â chi at ddibenion ymchwil i'n galluogi i wella'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost neu lythyr neu dros y ffôn.

Os ydym wedi cael eich cydsyniad i ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol, mae gennych yr hawl i'w dynnu yn ôl ar unrhyw adeg. Os ydych chi eisiau dileu eich cydsyniad, cysylltwch â DataProtection@blaenau-gwent.gov.uk neu dpa@torfaen.gov.uk a dwedwch wrthym pa wasanaeth rydych chi'n ei ddefnyddio er mwyn i ni allu delio â'ch cais.

Categorïau data personol arbennig

Nid ydym yn gofyn i chi ddarparu unrhyw ddata categori arbennig neu ddata troseddol, fodd bynnag gellir casglu'r rhain os ydych chi'n cynnwys gwybodaeth o'r fath mewn testun agored / sylwadau.

Pwy sydd â mynediad at eich data?

Er mwyn galluogi'r Cyngor i ddelio â'ch cyfranogiad yn y broses a chydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol, byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau partner, gan gynnwys:

  • Yn fewnol o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Eich cynrychiolwyr cyfreithiol
  • Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) - arolygwyr cynllunio
  • Darparwr gwasanaethau TGCh - SRS (Y Gwasanaeth Rhannu Adnoddau)

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael eu rhannu 'n allanol gyda sefydliadau at ddibenion cynnal cronfa ddata Opus Consult ac ar gyfer cynnal asesiad priodol o safleoedd ymgeisio a sylwadau a wnaed am y cynllun a'r dogfennau cysylltiedig. Gall y rhain gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • JDI Solutions Limited a Blue Fox Technology Limited sy'n cynnal System Opus Consult / Map
  • Ymgynghorwyr a benodir i gynnal yr asesiadau hyn (yn amodol ar Gytundeb Prosesu Data)

Ar wahân i lle nodwyd yn flaenorol, nid ydym yn trosglwyddo'ch manylion i drydydd partïon oni bai ei bod yn ofynnol yn gyfreithlon i ni wneud hynny.

Galwad am Safleoedd Ymgeisio: Wrth dderbyn cais, rhoddir rhif cyfeirnod i bob Safle Ymgeisio.  Cyhoeddir Cofrestr Safleoedd Ymgeisio sydd ar gael i'r cyhoedd gyda'r cyfeirnod ac enw'r cwmni/sefydliad neu ddisgrifiad 'tirfeddiannwr(au)' / 'y sawl sydd â diddordeb'.  Mae holl fanylion cyswllt y cynigydd yn cael eu cadw’n breifat.

Gweithdai / Ymgysylltu â Rhanddeiliaid: Mae cofnodion gweithdai a chyfarfodydd yn cael eu cadw gan y Tîm Cynllunio a Gweithredu Polisïau, a'u defnyddio i lunio Adroddiad am yr Ymgynghoriad sy'n cael ei gyhoeddi. Mae’r rheiny sy’n bresennol yn cael eu nodi yn ôl y cwmni / sefydliad y maent yn ei gynrychioli neu fel 'rhai sydd â diddordeb'. Priodolir sylwadau yn unol â hynny naill ai i gwmni / sefydliad neu 'y sawl sydd â diddordeb'. Mae manylion y rheiny sy’n bresennol, gan gynnwys pwy ydynt a’u manylion cyswllt, yn cael eu cadw’n breifat.   Mae rhestr o'r rheiny sydd wedi cael gwahoddiad / sy'n bresennol wedi'i chynnwys.

Cyfleoedd Ymgynghori Cyhoeddus: Mae pawb sy’n ymateb yn cael rhif cynrychiolydd. Ar ôl cwblhau pob ymgynghoriad, mae'n ofynnol i'r Cyngor lunio Adroddiad am yr Ymgynghoriad a’i gyhoeddi, a manylir ar bob ymateb sy’n dod i law a chaiff ei drafod gan swyddogion. Cyfeirir at sylwadau unigolion yn ôl rhif cynrychiolydd yn unig. Cyfeirir at sylwadau a gyflwynwyd ar ran cwmni / sefydliad yn ôl y rhif cynrychiolydd a'r cwmni / sefydliad. Ni chyhoeddir enw na manylion cyswllt unigol yn yr Adroddiad am yr Ymgynghoriad.

O dan Adran 19 Rheoliadau’r CDLl, mae'n ofynnol i'r Cyngor hefyd i sicrhau bod copi o unrhyw sylwadau am y Cynllun Adnau ar gael yn y mannau lle roedd dogfennau'r Cynllun Adnau ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd.  Bydd data personol heblaw am enwau cwmnïau / sefydliadau yn cael eu dileu ar y copïau hyn cyn eu bod ar gael.

Archwilio: Gellid gwahodd ymatebwyr yr ymgynghoriad am y Cynllun Adnau i gyflwyno’u sylwadau yn bersonol i Archwilydd / Archwilwyr annibynnol yn ystod Archwiliad o'r Cynllun. Mewn cyfarfod cyn Archwiliad, gall yr Archwilydd ofyn am ddewis llefarydd pan fydd sawl cynrychiolydd wedi gwneud sylwadau tebyg, er mwyn osgoi dyblygu, lle mae pob un wedi nodi eu bod yn dymuno bod yn bresennol.  Os bydd hyn yn digwydd, bydd Swyddog y Rhaglen yn gofyn i chi am eich caniatâd i rannu eich manylion cyswllt.

Dylai'r rheiny sy'n dewis cymryd rhan yn yr Archwiliad nodi ei bod yn ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi unrhyw ddatganiadau / dogfennau a ddarperir ar gyfer yr Archwiliad, ac mae’r un peth yn wir am Adroddiad yr Archwilydd am yr Archwiliad. Dim ond enwau'r ymatebwyr a'u sylwadau fydd yn cael eu cyhoeddi.

A ydy'r Data yn cael eu trosglwyddo allan o'r DU?

Ydyn.  Mae ein proseswyr wedi'u lleoli neu'n prosesu data y tu allan i'r DU, ond mae o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ac mae'r darpariaethau diogelu data priodol yn eu lle.

Sut y mae'r Cyngor yn cadw eich data yn ddiogel?

Mae gan y Cyngor bolisïau mewnol ar waith i sicrhau nad yw'r data y mae'n eu prosesu yn cael eu colli, eu dinistrio’n ddamweiniol, eu camddefnyddio neu eu datgelu. Mae mynediad at y data hyn wedi'i gyfyngu yn unol â pholisïau mewnol y Cyngor ac yn unol â GDPR y DU.

Bydd data yn cael eu storio'n ddiogel mewn:

  • Rhwydwaith Diogel
  • Cwmwl Diogel
  • Storfa ffisegol ddiogel ar gyfer copïau papur a chaled

Pan fo'r Cyngor yn cyflogi trydydd partïon i brosesu data personol ar ei ran, maent yn gwneud hynny ar sail cyfarwyddiadau ysgrifenedig. Mae'r trydydd partïon hyn hefyd o dan ddyletswydd cyfrinachedd ac mae'n ofynnol iddynt weithredu mesurau priodol i sicrhau diogelwch data.

Am ba mor hir y mae'r Cyngor yn cadw eich data?

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol am y cyfnod sy'n angenrheidiol yn unig a bydd yn dilyn safonau’r sefydliad a’r Awdurdod Lleol yn y maes hwn. Ar ddiwedd y cyfnod cadw, bydd y Cyngor yn dinistrio’r data neu’n cael eu gwared, yn ddiogel, yn unol ag amserlenni cadw.

Darparu gwybodaeth gywir

Mae'n bwysig ein bod yn cadw gwybodaeth gywir a chyfredol amdanoch er mwyn asesu eich anghenion a darparu'r gwasanaethau priodol. Os yw unrhyw rai o'ch manylion yn anghywir neu'n anghyflawn, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthym cyn gynted â phosibl er mwyn i ni ddiweddaru eich cofnodion.

Ydyn ni'n gwneud penderfyniadau awtomataidd / proffilio gyda'ch data?

Nac ydyn.

Eich hawliau

Mae gennych nifer o hawliau y gallwch eu harfer: -

  • Mynediad - i gael copi o'ch data ar gais
  • Cywiro – gofyn i’r Cyngor newid data sy’n anghywir neu’n anghyflawn
  • Gwrthwynebu, Cyfyngu neu Ddileu - o dan rai amgylchiadau gallwch ofyn i'r Cyngor ddileu eich data neu beidio â’u prosesu, er enghraifft pan nad yw'r data’n angenrheidiol mwyach at ddibenion prosesu
  • Cludadwyedd data - i gael data a ddarperir ar gyfer y Cyngor a/neu eu trosglwyddo i sefydliadau eraill (mae hyn yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig)
  • Tynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg (lle rhoddwyd cydsyniad)
  • Gwybod beth yw canlyniadau methu â rhoi data i'r Cyngor
  • Gwybod am unrhyw Benderfyniad Awtomataidd, gan gynnwys proffilio, a chanlyniadau hyn i chi.
  • Cyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio (Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth)

Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch ag:

  • Adrian Wilcock, Arweinydd Tîm Cynllunio a Gweithredu Polisïau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Glantorfaen Road, Pont-y-pŵl, NP4 6YB adrian.wilcock@torfaen.gov.uk  neu
  • John Raine, Rheolwr Tîm Cynlluniau Datblygu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN john.raine@blaenau-gwent.gov.uk

Gellir cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2il Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH. Ffoniwch 0330 414 6421 neu anfonwch neges trwy e-bost i cymru@ico.org.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 11/03/2026 Nôl i’r Brig