Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Gwasanaethau i blant anabl a'u teuluoedd

Dyma rai o'r gwasanaethau y mae'n bosibl y gallwn ni neu asiantaethau eraill eu darparu:

  • Gwasanaeth asesu ynghyd â chyngor a chymorth
  • Darparu offer arbenigol i leihau effaith anabledd
  • Gwasanaeth pontio i bobl ifanc sy'n cyrraedd oedolaeth
  • Taliadau Uniongyrchol i blant anabl

Mae Therapydd Galwedigaethol penodol ar gael hefyd i weithio gyda phlant ag anableddau.

Mae'n bosibl y bydd gan ofalwyr a gofalwyr ifanc hawl i gael asesiad o'u hanghenion hwy eu hunain hefyd dan Ddeddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) 2004.

Mae’r Mynegai Anabledd Plant sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, yn nodi plant ag anableddau yn y gymuned, ac yn eu cefnogi. Yn ogystal, wrth gofrestru, ceir adborth gwerthfawr am anghenion y plentyn, gan helpu i lunio gwasanaethau.

Gwasanaethau Cymdeithasol (Plant)