Wrth i bobl ifanc symud o gyfnod eu plentyndod i ddod yn oedolion, maen nhw’n profi nifer o newidiadau. Gelwir y broses hon yn Bontio at Ddod yn Oedolyn, ac mae’n gallu bod yn adeg o ansicrwydd a phryder i’r unigolyn ifanc ac aelodau’r teulu, yn enwedig pan fod gan yr unigolyn ifanc anabledd neu anghenion ychwanegol.

Mae rhai pobl ifanc 13-19 oed angen Cynllun Pontio i’w helpu gyda’r cyfnod at ddod yn oedolyn. Mae’r cynllun hwn yn arbennig o bwysig os yw’r unigolyn ifanc angen cymorth ychwanegol yn yr ysgol neu’r coleg, neu gan Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd.

I ddarganfod mwy am Gynllunio’r Cyfnod Pontio:

Darllenwch y canllawiau

Gwyliwch y Fideos

Lawrlwythwch gopi o un o’r Cynlluniau Pontio

I ddarganfod mwy, lawrlwythwch gopi o Brotocol Pontio Amlasiantaeth Gwent Gyfan i Bobl Ifanc ag Anableddau ac Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Gwasanaethau Cymdeithasol (Plant)