Mae Canolfan Adnoddau i Deuluoedd Torfaen yn helpu rhieni a gofalwyr i ddeall ac ateb anghenion eu plant mewn amgylchedd diogel, cefnogol a gofalgar.

Yn y Ganolfan Deuluoedd, ein nod yw cynnig gwasanaeth cadarnhaol a chefnogol i blant a theuluoedd fel bod pawb sy'n defnyddio'r Ganolfan yn cael profiad pleserus. Ein nod bob amser yw gweithio mewn ffordd hwylus a chreadigol.

Cyswllt dan oruchwyliaeth – fel rheol, bydd gweithiwr cymdeithasol yn gofyn am hyn pan fydd gorchymyn llys o ryw fath yn cael ei gyflwyno. Yna, bydd staff y Ganolfan yn trefnu'r cyswllt a bydd cynorthwywyr cymorth teuluol yno i'ch cefnogi chi ac arsylwi'ch amser gyda'ch teulu. Bydd cofnod yn cael ei wneud o'r arsylwadau hyn a'i roi i weithiwr cymdeithasol y plentyn neu'r plant.

Cymorth i deuluoedd – caiff amrywiaeth fawr o wasanaethau cymorth yn y gymuned ei chynnig, gan gynnwys:

  • Meithrin hunan-barch a hyder
  • Grwpiau ieuenctid
  • Gwaith ‘cadw'n ddiogel' i helpu plant i gadw'u hunain yn ddiogel rhag cam-driniaeth a/neu fwlio
  • Gwaith hanes bywyd
  • Gwaith uniongyrchol unigol gyda phlant, sy'n ystyried eu hanghenion emosiynol penodol
  • Cyrsiau magu plant – bydd angen i chi siarad â gweithiwr cymdeithasol am y rhain
  • Hybu gweithgareddau teuluol yn y gymuned

Oriau agor

Rydym ar agor fel a ganlyn:

  • 09:00 - 17:30 - Dydd Llun
  • 09:00 - 19:30 - Dydd Mawrth
  • 09:00 - 17:30 - Dydd Mercher
  • 09:00 - 17:30 - Dydd Iau
  • 09:00 - 17:00 - Dydd Gwener
  • 09:00 - 12:00 - Dydd Sadwrn

Canolfan Adnoddau i Deuluoedd Torfaen

Family Resource Centre, Wesley Street, Cwmbran, NP44 3LX